Toglo gwelededd dewislen symudol

Tirnod poblogaidd yn Nhreforys i'w ailagor yn swyddogol gan ganwr opera enwog

Bydd y canwr opera enwog o Gymru, Syr Bryn Terfel yn agor Canolfan y Tabernacl Treforys yn swyddogol ar 23 Tachwedd.

Victorian Day 2022

Dyma uchafbwynt y dathliadau  yn y gymuned hon yn Abertawe wrth iddi ddechrau cyfri'r dyddiau tan y Nadolig gyda diwrnod Fictoraidd trawiadol, a fydd yn cludo'r gymuned yn ôl i ddiwrnod Dickensaidd o ddathlu a rhyfeddu.

Mae Diwrnod Fictoraidd Treforys 2024 a gynhelir ddydd Sadwrn 23 Tachwedd o 10am i 3pm, yn addo rhaglen gyfoethog o weithgareddau'r ŵyl sy'n addas i deuluoedd, a fydd am ddim.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys popeth o Groto Siôn Corn a llwybr Nadolig i seiniau band pres byw, ystudfachwyr a pherfformwyr wedi'u gwisgo mewn gwisgoedd Fictoraidd go iawn.

Bydd canu carolau, sgyrsiau hanes a gweithdai syrcas difyr, y bwriedir iddynt roi cyfle i ymwelwyr brofi naws ac ysbryd Nadolig Fictoraidd.

Saif y Tabernacl Treforys, tirnod poblogaidd 152 o flynyddoedd oed, yng nghanol stryd hanesyddol Woodfield Street yn Nhreforys. Bydd y Tabernacl, a ailagorwyd yn ddiweddar yn dilyn prosiect adfer sensitif, bellach yn cynnig ystod ehangach o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol.

Mae Syr Bryn wedi canu yn y lleoliad ar sawl achlysur ar hyd y blynyddoedd ac mae hefyd wedi cefnogi digwyddiadau codi arian i helpu'r ymgyrch adfer.

Rhannodd y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, ei frwdfrydedd, "Mae gan Dreforys dreftadaeth Fictoraidd falch felly nod y digwyddiad hwn yw dathlu hanes y dref wrth ddarparu adloniant Nadoligaidd i bobl leol a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar gyfer busnesau lleol."

"Wrth i'r gymuned hon yn Abertawe gasglu ar gyfer y diwrnod cofiadwy hwn, bydd ymddangosiad Syr Bryn Terfel ac agoriad Canolfan y Tabernacl Treforys yn foment hanesyddol a fydd yn cysylltu treftadaeth y gymuned â'i dyfodol."

 

Diwrnod Fictoraidd Treforys 2024

 

10:00 AM

Groto Siôn Corn (10:00 - 11:30)- Canolfan Tabernacl Treforys

Dr Jekyll Science Show (plant 5 - 11 oed)- CentrePoint, 31 Market Street

Cantorion Fictoraidd Baggy Cringle- Eglwys Dewi Sant

Cyflwyniad gan Annie Pelleschi: History of Nursery Rhymes - Eglwys Bedyddwyr Aenon

Chôr Merched Treforys a Chôr y Tabernacl Treforys- Capel Tabernacl

Sesiwn Grefftau'r Nadolig i Blant ar thema Fictoraidd (10:00 - 11:30)- Llyfrgell Treforys

 

10:30 AM

Cyngerdd Organ - Capel Tabernacl

Gweithdai Circus Eruption (10:30 - 14:30)- Canolfan Tabernacl Treforys

 

11:00 AM

Ffair Hydref (11:00 - 14:30)- Canolfan Y Galon Sanctaidd

Chôr Merched Treforys a Chôr y Tabernacl Treforys- Capel Tabernacl

Band Pres Pen-clawdd - Eglwys Dewi Sant

Cyflwyniad gan Jeff Stewart: death in victorian Swansea- Eglwys Bedyddwyr Aenon

Gweithdai Creu Torchau (11:00 - 14:00)- 91 Woodfield Street

 

11:30 AM

Cantorion Fictoraidd Baggy Cringle- Canolfan Y Galon Sanctaidd

 

11:45 AM

Seremoni torri rhuban gan Syr Bryn Terfel- Canolfan Tabernacl Treforys

12:00 PM

Groto Siôn Corn (12:00 - 13:30)- Canolfan Tabernacl Treforys

Chôr Merched Treforys a Chôr y Tabernacl Treforys - Capel Tabernacl

Dynion Sweyn's Ey a Dawnswyr Cleddyf- Eglwys Dewi Sant

Barnu Arddangosfeydd Ffenestri Siopau gan Glantawe Lions- Woodfield Street

Cyflwyniad gan Gwilym Games: Tinplate, Tabernacle, Libraries and Mumbles Pier: The Life

of John Jones Jenkins, Lord Glantawe - Eglwys Bedyddwyr Aenon

 

12:30 PM

Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys - Capel Tabernacl

Cantorion Fictoraidd Baggy Cringle - Llyfrgell Treforys

 

1:00 pm

Y Fari Lwyd- Eglwys Dewi Sant

Cyflwyniad gan John Ashley: Buffalo Bill in Swansea (1903) - Eglwys Bedyddwyr Aenon

 

1:30 PM

Cyngerdd Organ - Capel Tabernacl

Sesiwn Gwneud Cardiau Nadolig, i bob oed (1:30 PM - 3:00 PM)- Llyfrgell Treforys

 

2:00 PM

Cantorion Fictoraidd Baggy Cringle- Eglwys Dewi Sant

Perfformiad o Amy Dillwyn gan Debra John- Eglwys Bedyddwyr Aenon

Cyflwyniad gan Steffan Phillips: The Secrets of Morriston's War Memorial Windows - Capel Tabernacl

 

3:00 PM

Cyngerdd Organ - Cloi Gweithgareddau'r Dydd- Capel Tabernacl

 

Trwy Gydol Y Dydd (Gwahanol Leoliadau)

 

Canolfan Tabernacl Treforys

Organ dro Fictoraidd

Carchar Fictoraidd

Stondinau Crefft

Llwybr Nadolig i Blant

Gweithdy Siôn Corn

Arddangosfeydd celf ysgolion

Phaentio wynebau

Lythyrau at Siôn Corn

Addurno Cwcis

 

65 Woodfield Street

Amgueddfa Abertawe - Stondin Gwrthrychau

Hynod Arddangosfa

Mari Lwyd Drych Hud - dewch i dynnu hunlun Fictoraidd am ddim

Gweithdy Pomander Fictoraidd

Arddangosfeydd gwybodaeth gan Gyfeillion Parc Treforys A Cyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa

 

Woodfield Street

Y Fari Lwyd

Storïwr Fictoraidd

Ystudfachwr Fictoraidd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2024