Adeiladwr twyllodrus o Abertawe'n cael ei garcharu
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe yn parhau â'u hymdrechion i fynd i'r afael ag adeiladwyr twyllodrus yn y ddinas a diogelu defnyddwyr.
Mae'r achos diweddaraf i'w gyflwyno gan swyddogion Safonau Masnach wedi arwain at ddedfryd hir o garchar ar gyfer David James Davies, 29, o Gower View Road, Gorseinon.
Plediodd Mr Davies yn euog i un cyfrif o Fusnes sy'n Masnachu'n Dwyllodrus o dan Ddeddf Twyll 2006 yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a saith mis, yn dilyn ymgyrch naw mis o anonestrwydd a gwaith adeiladu gwael a effeithiodd ar 20 o breswylwyr gwahanol ar draws Abertawe.
Rhwng mis Mai 2023 a mis Mawrth 2024, cytunodd Mr Davies i wneud amrywiaeth eang o waith yng nghartrefi preswylwyr, er nad oedd y tasgau bron byth yn cael eu cwblhau neu fe'u cwblhawyd i safon wael.
Arweiniodd hyn at gyfres o gwynion gan breswylwyr i Dîm Safonau Masnach y Cyngor, a gynhaliodd ymchwiliad manwl a arweiniodd yn y pen draw at gyhuddo Mr Davies o fasnachu twyllodrus.
Yn un o'r achosion, talwyd mwy na £10,000 gan un preswyliwr i Mr Davies am ddymchwel garej a'i ailadeiladu. Dywedwyd wrth Safonau Masnach mai rhan o'r gwaith yn unig a gwblhawyd ac ni ddychwelodd y diffynnydd i'w gwblhau.
Talodd preswyliwr arall fwy nag £8,000 am batio a gwelliannau i garej. Roedd asesiad o'r gwaith wedi amlygu bod angen ail-wneud y gwaith yn gyfan gwbl gan fod yr ansawdd mor wael.
Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Dros gyfnod amser cymharol fyr, cafodd fy nhîm lif o gwynion - yr oedd pob un ohonynt yn ymwneud â David Davies.
"Amlygodd ein hymchwiliadau gyswllt cyffredin iawn o ran safonau gwael y gwaith a wnaed. Mewn rhai achosion, ni ddechreuwyd y gwaith o gwbl. Canfuom hefyd, pan geisiodd preswylwyr gysylltu â Mr Davies, ei fod wedi peidio ag ymateb.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu preswylwyr yn Abertawe rhag gweithgareddau anghyfreithiol unigolion fel Mr Davies.
"Mae llawer iawn o ofid wedi'i achosi i deuluoedd sydd, mewn rhai achosion, wedi talu symiau mawr o arian i rywun sy'n esgus bod yn adeiladwr, y mae'n ymddangos nad oedd ganddo ddim bwriad i orffen tasgau y cytunodd i'w cyflawni.
"Rwy'n falch iawn o ymroddiad ein tîm Safonau Masnach, y mae eu hymdrechion wedi arwain at orfodi un adeiladwr twyllodrus i dalu am ei droseddau yn erbyn pobl onest a diwyd yn ein dinas."