Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae chwaraeon Elba yn cael ei drawsnewid

Helpodd gŵyl hoci ar gyfer plant ysgol i agor cae hoci pob tywydd ar ei newydd wedd yng nghyfadeilad Chwaraeon Elba Tregŵyr.

Hockey at Elba

Hockey at Elba

Mae'r lleoliad poblogaidd yn cael ei reoli gan sefydliad nid er elw Freedom Leisure, ar ran Cyngor Abertawe.

Bu'r gwaith adnewyddu'n bosib diolch i grant gwerth £230,000 a dderbyniwyd gan Chwaraeon Cymru a Freedom Leisure. Mae'r cae synthetig wedi'i achredu gan y Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol a bydd yn parhau i fod yn gartref i Glwb Hoci Tregŵyr. 

Meddai Yasmin Marshall, aelod o'r clwb, "Rydym yn falch iawn o'n cae nawr. Yn y gorffennol rydym wedi gohirio gemau oherwydd llifogydd neu oherwydd bod y cae wedi rhewi yn y gaeaf. 

"Nawr gallwn chwarae gemau hoci o safon yn Nhregŵyr. 

"Mae'r cae newydd yn hanfodol gan fod ein tîm cyntaf yn chwarae yma ac mae gennym chwaraewyr rhyngwladol yn ein tîm. 

"Mae hyn wedi sicrhau dyfodol hoci yn Nhregŵyr ac rydym eisoes yn dechrau gweld mwy o unigolion yn ymuno â'r clwb."

Mae'r cae hefyd yn addas ar gyfer pêl-droed a chwaraeon eraill ar gyfer ysgolion, grwpiau a chymunedau.

Mae'n ddelfrydol yn ystod misoedd y gaeaf pan all caeau glaswellt fynd yn fwdlyd. 

Meddai Gwyn Owen, Rheolwr Ardal Freedom Leisure Abertawe, "Mae'r cae ar ei newydd wedd yn gae awyr agored gwych ar gyfer Abertawe gyfan. Rydym yn annog cynifer o bobl â phosib i ddod i'w weld ac i fwynhau cyfleusterau eraill Elba."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, "Mae gan Abertawe draddodiad o feithrin chwaraewyr hoci sy'n cystadlu ar lefel uchel. 
"Mae llwybr lleol cryf sy'n cyflwyno chwaraewyr i'r gêm drwy waith y clybiau. Gellir cefnogi hyn drwy'r cae newydd yng nghyfadeilad chwaraeon Elba. Rydym yn ddiolchgar i Chwaraeon Cymru, Hoci Cymru a Freedom Leisure am wneud i hyn ddigwydd."
Gall grwpiau chwaraeon archebu lle i ddefnyddio cae Elba ar ei newydd wedd drwy e-bostio elba@freedom-leisure.co.uk neu ffonio 01792 874424.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Tachwedd 2024