Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai Cyngor newydd yn helpu i liniaru'r pwysau ar lety

Mae canolfan ieuenctid a fu gynt yn eiddo i Gyngor Abertawe yn cael ei thrawsnewid yn fflatiau newydd.

sparks centre redevelopment

Mae gwaith adnewyddu'n parhau ar hen safle Canolfan Addysg Sparks ym Mlaen-y-maes, sy'n cael ei haddasu'n bedair fflat breswyl.

Bydd y fflatiau hyn ar gael i breswylwyr ar restr aros tai y Cyngor a disgwylir iddynt fod yn barod ar gyfer tenantiaid newydd yn gynnar yn 2025.

Bydd y prosiect pan fydd wedi'i orffen yn cynnwys 2 fflat un ystafell wely a 2 fflat dwy ystafell wely, a bydd yn rhoi bywyd newydd i adeilad gwag nad yw wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd.

Bydd plannu tai a gwrychoedd ychwanegol, yn ogystal â gosod blychau adar ac ystlumod yn helpu i roi hwb i nodweddion gwyrdd a bioamrywiaeth y gymuned.

Cafwyd cyllid ar gyfer y rhaglen Rhagor o Gartrefi a arweinir gan y Cyngor drwy Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru ynghyd â chyllid ychwanegol drwy gyfrif refeniw tai'r Cyngor.

Dyluniwyd a chwblhawyd y gwaith o addasu'r adeilad yn fflatiau gan Dîm Gwasanaethau Adeiladu'r Cyngor

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau,

"Un o'n nodau o ran cynyddu ein stoc dai gyffredinol yn Abertawe yw edrych ar ein hopsiynau ar gyfer defnyddio hen eiddo'r Cyngor sy'n wag at ddiben arall.

"Mae'r cynllun diweddaraf hwn ym Mlaen-y-maes yn enghraifft wych arall o'n hymdrechion i ddefnyddio adeiladau presennol ar draws y ddinas, a'u haddasu'n llety Cyngor mawr ei angen."

Mae'r Cyngor eisoes wedi cwblhau prosiectau tebyg i helpu i roi hwb i'w stoc dai, gyda chynlluniau wedi'u cwblhau yn hen Swyddfeydd Tai Ardal Pen-lan ac Eastside, sydd wedi'u trawsnewid yn fflatiau newydd.

Mae contractwyr newydd symud ymlaen i safle yn Nhrefansel hefyd lle mae'r hen gyfleuster addysg, Brondeg House, wedi'i ddymchwel fel y gellir datblygu 13 o dai Cyngor newydd yno.

 Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Mae hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor - addawyd mwy na £55 miliwn ar gyfer tai yn 2024/25 ac rydym wedi ymrwymo i wario £250 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024