Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i gymuned ddweud ei dweud ar gynlluniau i ailgynllunio ffordd boblogaidd yng nghanol y ddinas

Bydd ffordd boblogaidd yng nghanol y ddinas yn cael ei hailgynllunio i'w gwneud yn wyrddach ac yn fwy deniadol i fusnesau ac ymwelwyr.

st helens street design

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr Robert Bray Associates a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu uwchgynllun ar gyfer St Helen's Road.

Mae'r cynlluniau'n rhan o ymateb i alwadau'r gymuned am welliannau i'r llwybr poblogaidd sy'n cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ymwneud â bwyd a manwerthwyr lleol.

Mae dyluniadau cysyniad cynnar wedi'u datblygu ac maent ar fin cael eu cyflwyno i fusnesau lleol, preswylwyr a grwpiau cymunedol yn yr ardal.

Er mwyn arddangos y dyluniadau cychwynnol, mae sesiwn galw heibio arbennig wedi'i threfnu gan y Cyngor ac Urban Foundry a bydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 23 Tachwedd yn adeilad YMCA ar Ffordd y Brenin.

Nod y dyluniadau diweddaraf yw ategu'r gwelliannau a gwblhawyd yn flaenorol ar hyd Ffordd y Brenin, sydd wedi cynnwys gwaith i ledu troedffyrdd i gerddwyr a chynyddu isadeiledd gwyrdd, gan gynnwys plannu rhagor o goed.

Bydd cynrychiolwyr o'r Cyngor ac Urban Foundry yn bresennol yn y sesiwn galw heibio ac rydym am i fusnesau ddod i'r digwyddiad arbennig i roi sylwadau ac adborth cyn i gynlluniau mwy manwl gael eu datblygu.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae trafodaethau â busnesau yng nghymuned St Helen's Road a'r cyffiniau wedi bod yn mynd rhagddynt ers tro ac maent wedi arwain at ddatblygu dyluniad cysyniad o ran sut gallai'r ffordd edrych yn y dyfodol.

"Nawr rydym am gyflwyno'r syniadau hyn i bobl leol fel y gallant barhau i gyflwyno adborth a bod yn rhan barhaus o'r cynlluniau ailddatblygu.

"Mae St Helen's Road yn ffordd bwysig a phoblogaidd yng nghanol y ddinas. Mae llawer o bobl yn gweithio yno, yn ymweld â hi ac yn mynd yno i siopa ac i fwyta. Ein nod yw trawsnewid y llwybr fel ei fod yn ategu'r holl waith adfywio rhagorol sy'n mynd rhagddo yng nghanol y ddinas."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024