Abertawe'n un o 5 dinas orau am ailgylchu yng Nghymru!
Mae preswylwyr Abertawe wedi helpu'r ddinas i fod yn un o bum dinas orau am ailgylchu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hystadegau perfformiad blynyddol ar gyfer cynghorau Cymru yn 2023/24 yn ddiweddar, ac o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae Abertawe'n un o'r 5 gorau, gyda chyfradd ailgylchu o 70.5%
Mae'n rhaid o bob cyngor yng Nghymru ailgylchu 70% o'i sbwriel erbyn 204/25, sy'n golygu bod preswylwyr y ddinas wedi helpu Abertawe i gyflawni'r targed flwyddyn yn gynnar - a dim ond 6 chyngor arall sydd wedi cyflawni hyn.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU i gyrraedd cyfraddau ailgylchu cyffredinol sy'n uwch na 50%.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau'r cyngor, "Mae'n wych gweld cyfraddau cadarnhaol Abertawe. Mae preswylwyr yn gwneud y mwyaf o'r gwasanaethau casglu ailgylchu wrth ymyl y ffordd rydym yn eu cynnig, gan ein helpu i gael gwared ar wastraff cartref yn y ffordd orau bosib.
"Yn y dyfodol, disgwylir i ni ailgylchu mwy o wastraff nag yr ydym yn ei ailgylchu ar hyn o bryd, felly rydym yn parhau i weithio gydag aelwydydd i sicrhau eu bod yn manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, a thrwy leihau swm y gwastraff sachau du sy'n cael ei waredu.
"Rydym hefyd yn parhau i wella ein casgliadau gwastraff i sicrhau ein bod yn gwneud yn fawr o'n hadnoddau fel y gallwn reoli'r gwahanol ddeunyddiau gwastraff rydym yn eu casglu bob wythnos a phob pythefnos."
Cyhoeddodd y Cyngor yn ddiweddar y bydd newid bach o ran pa ddeunyddiau a gesglir yn wythnosol.
O 2 Rhagfyr, bydd gwastraff sachau du yn cael ei gasglu ar yr un pryd â gwastraff ailgylchu gwyrdd yn hytrach na chael ei gasglu gyda gwastraff plastig.
Mae'r newidiadau hyn o ganlyniad i gynnydd yn swm y gwastraff ailgylchu sy'n cael ei roi allan i'w gasglu a'r ffaith bod cerbydau casglu newydd wedi'u cyflwyno.
Mae preswylwyr Abertawe wedi derbyn gwybodaeth am y newidiadau pwysig a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud unwaith y bydd y newidiadau ar waith.
Meddai'r Cyng. Anderson, "Rwy'n hyderus ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod preswylwyr yn ymwybodol o'r newidiadau fel y gallant ddilyn y drefn newydd.
"Mae'r newidiadau hyn yn fach iawn ond maent yn bwysig iawn er mwyn sicrhau ein bod yn casglu sbwriel yn fwy effeithlon ac yn lleihau rhywfaint o'r tarfu a brofwyd dros y misoedd diwethaf."
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu gwastraff cartref a'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno, gall preswylwyr fynd i https://www.abertawe.gov.uk/NewidiadauIGasgliadauAilgylchu