Tip y ddinas yn cynnig bargeinion dros y Nadolig
Mae un o siopau mwyaf unigryw Abertawe'n cynnig llu o fargeinion i breswylwyr dros y Nadolig.
Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn cynnal siop 'Trysorau'r Tip' yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet ers mwy na deng mlynedd.
Mae'r silffoedd bellach yn llawn eitemau cartref diangen a roddwyd i'r siop gan breswylwyr a gallent helpu i ddarparu anrhegion Nadolig rhad i'r holl deulu.
Mae amrywiaeth eang ar gael o nwyddau trydanol, gan gynnwys setiau teledu a chyfrifiaduron, ochr yn ochr â channoedd o CDs, DVDs, gemau fideo, teganau meddal, beiciau, dillad a tsieini casgladwy.
Lansiwyd siop 'Trysorau'r Tip' yn 2012 ac roedd y cyngor yn un o'r rhai cyntaf yn y wlad i ddatblygu cynllun o'r fath.
Ers hynny, mae wedi helpu i ddargyfeirio miloedd o eitemau o lif gwaredu gwastraff y ddinas a galluogi llawer o breswylwyr i gael gafael ar fargen.
Amcangyfrifwyd bod 60,000 o eitemau wedi cael eu cyflwyno drwy'r siop yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024), sy'n cyfateb i oddeutu 220 tunnell o nwyddau.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae siop Trysorau'r Tip yn rhoi cyfle gwych i breswylwyr alw heibio a chasglu rhywbeth am gyfran fach o'r gost wreiddiol.
"Pan wnaethom greu'r siop yn 2012, roeddem am gydnabod y ffaith bod preswylwyr yn barod i daflu llawer o bethau y gellir eu defnyddio o hyd, a bod rheoli gwastraff yn ymwneud ag ailddefnyddio, yn hytrach nag ailgylchu'n unig.
"Yn ystod y blynyddoedd y mae'r siop wedi bod yn gweithredu, rydym wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi bywyd newydd i eitemau cartref a fyddai wedi cael eu taflu fel arall.
"Mae preswylwyr wedi cefnogi'r siop drwy feddwl am yr hyn y maent yn ei waredu ac ymweld â'r safle i gynnig eitemau diangen.
"Yn bwysig, mae'r incwm sy'n deillio o werthu eitemau yn y siop yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn rheoli gwastraff fel y gallwn barhau i ddatblygu'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i breswylwyr yn y ddinas."
Gall preswylwyr hefyd wirio gwefan y cyngor i gael gwybod am y dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu gwahanol dros y Nadolig. Er mwyn gwirio'r dyddiadau casglu, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/gwyliauailgylchu
Mae'r cyngor hefyd wedi gwneud mân newidiadau i'r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd a gall preswylwyr wirio yma www.abertawe.gov.uk/NewidiadauIGasgliadauAilgylchu i sicrhau bod preswylwyr yn rhoi'r gwastraff cywir allan yn ystod yr wythnos gywir.
Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Rydym wedi gwneud y newidiadau oherwydd bod preswylwyr yn rhoi swm cynyddol o ddeunydd ailgylchu i'w gasglu. Hyd yn hyn, mae'r newidiadau wedi gweithredu'n hwylus iawn ac mae'r preswylwyr wedi ymaddasu'n dda iawn."