Teganau 'peryglus' wedi'u hatafaelu o siop dros dro yng nghanol y ddinas.
Mae siopwyr yn Abertawe'n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus y Nadolig hwn wrth brynu anrhegion i deulu a ffrindiau.
Mae'r cyngor yn dilyn ymweliad diweddar â siop dros dro yng nghanol y ddinas gan dîm Safonau Masnach y Cyngor, lle'r atafaelwyd traean o stoc y siop, gan gynnwys amrywiaeth eang o deganau, eitemau trydanol a phersawr.
Mae Safonau Masnach wedi codi pryderon ynghylch peryglon posib llawer o'r eitemau, fel y risgiau tagu sy'n gysylltiedig â theganau bach, yn ogystal â phryderon trwyddedu ehangach mewn perthynas â nwyddau ffug.
Mae'r tîm bellach wrthi'n profi llawer o'r miloedd o eitemau a atafaelwyd i asesu eu risgiau i ddefnyddwyr.
Un eitem o bryder a atafaelwyd oedd set roddion dryll tegan gyda bwledi a oedd yn clecian yn uchel. Wrth ymchwilio ymhellach i'r eitem, darganfuwyd fod y set roddion dryll tegan wedi cael ei wahardd drwy Ewrop i gyd oherwydd uchder sŵn y dryll a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chlyw plant. Mae'r dryll hefyd yn lledaenu gwreichion pan gaiff ei danio ac mae perygl y gallai hyn niweidio golwg plant.
Roedd eitemau eraill a atafaelwyd yn cynnwys symiau mawr o gylchoedd allweddi gydag elfennau bach yr ystyrir eu bod yn anniogel oherwydd risgiau tagu os cânt eu rhoi yng ngheg plentyn.
Meddai Rhys Harries, swyddog arweiniol Safonau Masnach y Cyngor, "Yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn tueddu i weld mwy o'r siopau dros dro hyn yn ymddangos, lle cynigir rhoddion rhad.
"Rydym yn deall bod teuluoedd yn chwilio am fargeinion dros y Nadolig, a gall y siopau hyn fod yn boblogaidd iawn.
"Ein pryder ni yw nad yw llawer o'r rhoddion sydd ar gynnig wedi pasio profion diogelwch, sy'n rhywbeth rydym yn chwilio amdano wrth asesu nwyddau sydd ar werth, yn enwedig pan fo'r nwyddau hyn yn rhai ar gyfer plant bach.
"Yn yr achos diweddaraf hwn, gwelsom lawer o eitemau a oedd yn peri pryder i ni, ac felly rydym wedi cymryd camau i'w hatafaelu a diogelu defnyddwyr."
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: "Mae'n galonogol gwybod bod ein Tîm Safonau Masnach yn parhau i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â'r nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn ein dinas.
"Mae gan ddefnyddwyr yr hawl i gael eu diogelu rhag busnesau sy'n benderfynol o werthu nwyddau o safon isel a nwyddau sydd o bosib yn beryglus.