Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect goleuadau promenâd Bae Abertawe bellach wedi'i gwblhau

Mae'r promenâd ar hyd Bae Abertawe yn cael ei oleuo bob nos bellach ar gyfer y cyhoedd, wedi i gynllun goleuadau cyhoeddus newydd gael ei gwblhau.

promenade lights

Mae Cyngor Abertawe wedi cwblhau'r gwaith o osod mwy na 300 o folardiau goleuadau LED ar hyd y bae fel rhan o welliannau cyfredol i'r cyrchfan.

Defnyddir y llwybr cerdded a beicio poblogaidd gan filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr bob wythnos gyda llawer yn ei ddefnyddio yn yr hwyr, ac roedd y Cyngor am sicrhau bod defnyddwyr y prom yn teimlo'n fwy diogel wrth i olau dydd bylu.

Mae'r colofnau goleuo lefel isel newydd wedi'u gosod pob 14 metr ar hyd y prom, yn dilyn buddsoddiad o dros £400,000. Disgwylir i bob golau ynni effeithlon gostio £15 y flwyddyn yn unig i'w ddefnyddio.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r promenâd yn croesawu miloedd o bobl yr wythnos gyda llawer yn cerdded, yn loncian, yn gwthio pramiau, yn mynd â'u cŵn am dro neu'n beicio'u ffordd ar ei hyd.

"Mae'n cael ei ddefnyddio llawer, a'n nod yw sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo'n ddiogel ar hyd y llwybr, waeth pa amser o'r dydd ydyw.

"Rydym bellach wedi cwblhau'r cynllun goleuo gan ddefnyddio offer goleuo ynni effeithlon modern, gan ein galluogi i gadw costau ynni mor isel â phosib.

Mae gwaith mawr i uwchraddio'r morglawdd hefyd yn mynd rhagddo ar ran y Mwmbwls o'r promenâd er mwyn gwella'r amddiffynfeydd môr rhwng Knab Rock a Sgwâr Ystumllwynarth.

Prif nod y cynllun yw diogelu cartrefi, busnesau ac amwynderau gerllaw rhag cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol ac mae'n cynnwys ailfodelu'r rhan hon, a'i gwneud yn fwy addas i gerddwyr a beicwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect amddiffynfeydd môr y Mwmbwls ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/ProsiectAmddiffynArfordirYMwmbwls

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024