Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gartrefi yn helpu i leihau pwysau oherwydd prinder tai yn Abertawe

Mae cynlluniau tymor hir i greu rhagor o gartrefi yn Abertawe wedi hen ddechrau, mewn ymgais i fynd i'r afael â phryderon parhaus ynghylch digartrefedd.

Parc-y-helig houses

Cwblhawyd adolygiad gan Gyngor Abertawe sy'n edrych ar y cynlluniau presennol a chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer creu tai mwy fforddiadwy i deuluoedd a phobl sengl yn y ddinas.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu rhagor o gartrefi cyngor yn y ddinas, gan gynnwys adeiladu cartrefi newydd, addasu eiddo presennol ac eiddo nad ydynt yn cael eu defnyddio sy'n eiddo i'r Cyngor yn gartrefi newydd, yn ogystal â phrynu hen dai cyngor a werthwyd dan y cynllun Hawl i Brynu yn ôl.

Hyd yn hyn, mae 288 o gartrefi wedi cael eu creu a'u hychwanegu at stoc tai presennol y Cyngor. Mae'r cyfanswm yn cynnwys 88 cartref modern newydd sbon - y mae pob un ohonynt yn cynnwys technoleg arbed ynni flaengar sy'n helpu preswylwyr i gadw eu biliau ynni'n isel.

Mae 179 o hen gartrefi cyngor bellach ym meddiant y Cyngor eto ar ôl iddynt gael eu prynu dan y cynllun Hawl i Brynu. Mae 21 o gartrefi eraill wedi cael eu creu drwy newid adeiladau Cyngor blaenorol yn gartrefi - mae'r rhain yn cynnwys hen swyddfeydd tai ardal ym Mhen-lan a Bôn-y-maen.

Mae cwblhau gwaith ar eiddo a chaffaeliadau pellach yn golygu y bydd oddeutu 306 o unedau newydd yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2025.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'n rhaglen Rhagor o Gartrefi. Mae amrywiaeth eang o gartrefi wedi cael eu creu drwy nifer o brosesau, gan gynnwys datblygiad newydd, ailddefnyddio eiddo sy'n eiddo i'r Cyngor, yn ogystal â phrynu hen dai cyngor yn ôl a'u hychwanegu at ein stoc tai presennol.

"Mae'r holl brosiectau hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y cartrefi y gallwn eu darparu i bobl Abertawe.

"Mae rhestrau aros ar gyfer cartrefi yn cynyddu ar draws y DU, nid yng Nghymru yn unig, ac yn Abertawe rydym yn gwneud popeth y gallwn i geisio lleihau'r pwysau hwn ar ein gwasanaeth tai."

Yn fwy diweddar, mae'r Cyngor wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun tai mawr ym Môn-y-maen, lle gellid datblygu hyd at 156 o gartrefi newydd.

Caiff y cynllun tai ei ddatblygu mewn pedwar cam ar hyd Brokesby Road, gan ddarparu cymysgedd o gartrefi a fydd yn amrywio o fflatiau ag un ystafell wely, byngalos â dwy ystafell wely, yn ogystal â thai â thair a phedair ystafell wely.

Bydd y Cyngor yn ceisio atgynhyrchu'r priodoleddau cynaliadwy ac ynni effeithlon sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn lleoliadau eraill ar draws Abertawe lle mae cartrefi cyngor newydd wedi'u creu, gan gynnwys safleoedd yng Ngellifedw, Blaen-y-maes a'r Clâs.

Ac nid y Cyngor yn unig sy'n datblygu tai fforddiadwy. Mae'r Cyngor yn parhau i weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel Pobl, Tai Coastal a Caredig i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y ddinas.

Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Ar y cyfan, mae 1,720 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi cael eu cyflwyno gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r Cyngor rhwng 2017/18 a 2023/24.

"Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r darparwyr tai hyn i gynyddu nifer y tai yn Abertawe ymhellach."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024