Cynnydd ar gynlluniau ar gyfer San Helen
Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio gyda'r Gweilch ac eraill wrth i'r rhanbarth rygbi weithio tuag at sefydlu San Helen fel ei gartref newydd.
Ar 12 Rhagfyr, cytunodd Cabinet rheoli'r Cyngor i fuddsoddi yn San Helen er mwyn creu stadiwm newydd yno, yn destun amodau.
Byddai hyn yn darparu cartref newydd i'r Gweilch ac yn creu cyfleusterau y gellid eu defnyddio gan glybiau eraill a'r gymuned.
Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau'r Cabinet am gynlluniau i adleoli'r clwb criced a gymeradwywyd yn flaenorol ym mis Medi.
Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng nifer o randdeiliaid allweddol a bydd yr holl sefydliadau dan sylw yn cael cyfle i gytuno ar unrhyw newidiadau i weithrediad San Helen.
Bydd datblygiad San Helen hefyd yn amodol ar y broses gynllunio.
Mae Clwb Criced Abertawe yn y broses o ddod o hyd i gartref addas gerllaw a fydd yn caniatáu i'r clwb barhau i chwarae ar y lefel uchaf yng nghynghrair de Cymru. Bydd Abertawe'n gallu chwarae yn nhymor 2025, a fydd yn nodi 150 o flynyddoedd ers i'r clwb ddechrau chwarae yn San Helen.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer parc gwyddor chwaraeon yn Abertawe ac mae ymrwymiad y Gweilch i ddyfodol tymor hir yn Abertawe yn cyd-fynd â hyn.
"Rydym yn gweithio'n galed gyda nhw a rhanddeiliaid allweddol eraill i wireddu'r cynlluniau hyn.
"Mae rhagor o waith i'w wneud ond mae ein trafodaethau â'r holl randdeiliaid yn parhau i fod yn gadarnhaol a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith parhaus gyda ni.
"Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i weithio gyda'r Gweilch i wireddu'r uchelgais o chwarae yn San Helen yn nhymor 2025-2026."
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 20 Rhagfyr 2024