Toglo gwelededd dewislen symudol

Ar agor ar gyfer y Nadolig: Mwy na 500 llath o brom y Mwmbwls

Bydd bron hanner prom y Mwmbwls ar agor i gerddwyr a beicwyr y Nadolig hwn.

Mumbles Prom 191224

Mumbles Prom 191224

Wrth i filoedd o bobl ymweld â glân y môr dros y Nadolig, mae'r timau adeiladu sy'n gosod system amddiffyniad môr newydd wedi sicrhau y bydd mynediad at olygfeydd panoramig o'r môr. 
Bydd y gwaith terfynol sy'n cynnwys lledu'r prom i led cyson o 6m, gosod arwyneb sy'n treulio'n dda, creu gwelyau blodau ac ardaloedd chwarae wedi'u tirlunio a gosod goleuadau ynni effeithlon newydd yn cael ei wneud o gwmpas y Pasg.
Mae tua 70% o'r prosiect wedi'i gwblhau.
Bydd y rhannau o'r prom sydd ar agor dros y Nadolig, sy'n cynnwys wal dychwelyd tonnau a rheiliau diogelwch dur gwrthstaen newydd, yn cynnwys o dafarn a bwyty The George Mumbles i lithrfa Southend ac o Oyster Wharf i fwyty Mumtaz.
Mae'r ardaloedd hyn yn cynnig arwydd cynnar o ran sut mae'r cynllun amddiffyn arfordir y Mwmbwls sy'n werth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo.
Nod y gwaith yw amddiffyn y gymuned rhag peryglon stormydd a llanwau cynyddol ac mae'r gwaith yn cael ei gynnal gan y contractwyr arbenigol Knights Brown ar ran Cyngor Abertawe. Daw'r rhan fwyaf o'r cyllid o Lywodraeth Cymru.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'n wych y bydd pobl yn gallu mwynhau cerdded a beicio ar hyd rhannau sylweddol o brom y Mwmbwls dros y Nadolig.
"Mae'r ffaith y bydd pobl yn gallu ymweld â'r ardal wych hon dros y Nadolig yn allweddol i lawer o breswylwyr Abertawe. Rwy'n siŵr y byddant yn mwynhau'r golygfeydd panoramig dros y Nadolig a bydd ganddynt ddiddordeb mewn gweld sut mae'r cynllun i amddiffyn yr arfordir yn mynd rhagddo.
"Bydd hefyd yn gyfle arall iddynt gefnogi busnesau lleol sydd wedi bod yn amyneddgar iawn wrth i'r gwaith gael ei gwblhau.
"Bydd yr amddiffynfeydd arfordirol wedi'u gwella yn amddiffyn cartrefi, busnesau, sefydliadau a digwyddiadau am ddegawdau i ddod. Bydd y prom lledaenach, rhagor o wyrddni, goleuadau gwell, cyfleoedd chwarae newydd a gwell cysylltiadau â Mumbles Road yn sicrhau y bydd ymweld â'r ardal yn brofiad hyd yn oed yn fwy pleserus nag y bu yn y gorffennol."
Meddai Neil Chambers, Rheolwr Prosiect Knights Brown, "Mae'n bleser gallu sicrhau bod rhannau mawr o'r prom yn hygyrch dros y Nadolig.
"Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod i fwynhau'r golygfeydd a chael gwell dealltwriaeth o sut mae'r gwaith yn datblygu, yn ogystal â chael cyfle i gefnogi busnesau'r Mwmbwls."
Mae modd cyrraedd y Mwmbwls o gyfeiriad Abertawe a phenrhyn Gŵyr drwy fynd ar feic, ar y bws ac yn y car. Mae cannoedd o leoedd parcio ar gael ar lan y môr.

Llun: Rhan o brom y Mwmbwls.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Rhagfyr 2024