Toglo gwelededd dewislen symudol

bachu bargen y flwyddyn newydd hon

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn cynnal siop 'Trysorau'r Tip' yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet ers mwy na deng mlynedd.

tip treasures

Mae'r silffoedd bellach yn llawn eitemau cartref diangen a roddwyd i'r siop gan breswylwyr a gallent helpu i ddarparu anrhegion Nadolig rhad i'r holl deulu.

Mae amrywiaeth eang ar gael o nwyddau trydanol, gan gynnwys setiau teledu a chyfrifiaduron, ochr yn ochr â channoedd o CDs, DVDs, gemau fideo, teganau meddal, beiciau, dillad a tsieini casgladwy. 

Lansiwyd siop 'Trysorau'r Tip' yn 2012 ac roedd y cyngor yn un o'r rhai cyntaf yn y wlad i ddatblygu cynllun o'r fath.

Ers hynny, mae wedi helpu i ddargyfeirio miloedd o eitemau o lif gwaredu gwastraff y ddinas a galluogi llawer o breswylwyr i gael gafael ar fargen.

Amcangyfrifwyd bod 60,000 o eitemau wedi cael eu cyflwyno drwy'r siop yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024), sy'n cyfateb i oddeutu 220 tunnell o nwyddau.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae siop Trysorau'r Tip yn rhoi cyfle gwych i breswylwyr alw heibio a chasglu rhywbeth am gyfran fach o'r gost wreiddiol.

"Pan wnaethom greu'r siop yn 2012, roeddem am gydnabod y ffaith bod preswylwyr yn barod i daflu llawer o bethau y gellir eu defnyddio o hyd, a bod rheoli gwastraff yn ymwneud ag ailddefnyddio, yn hytrach nag ailgylchu'n unig.

"Yn ystod y blynyddoedd y mae'r siop wedi bod yn gweithredu, rydym wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth roi bywyd newydd i eitemau cartref a fyddai wedi cael eu taflu fel arall.

"Mae preswylwyr wedi cefnogi'r siop drwy feddwl am yr hyn y maent yn ei waredu ac ymweld â'r safle i gynnig eitemau diangen.

"Yn bwysig, mae'r incwm sy'n deillio o werthu eitemau yn y siop yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn rheoli gwastraff fel y gallwn barhau i ddatblygu'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i breswylwyr yn y ddinas."

Gall preswylwyr hefyd wirio gwefan y cyngor i gael gwybod am y dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu gwahanol dros y Nadolig. Er mwyn gwirio'r dyddiadau casglu, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/gwyliauailgylchu

Mae'r cyngor hefyd wedi gwneud mân newidiadau i'r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd a gall preswylwyr wirio yma www.abertawe.gov.uk/NewidiadauIGasgliadauAilgylchu i sicrhau bod preswylwyr yn rhoi'r gwastraff cywir allan yn ystod yr wythnos gywir.

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Rydym wedi gwneud y newidiadau oherwydd bod preswylwyr yn rhoi swm cynyddol o ddeunydd ailgylchu i'w gasglu. Hyd yn hyn, mae'r newidiadau wedi gweithredu'n hwylus iawn ac mae'r preswylwyr wedi ymaddasu'n dda iawn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Ionawr 2025