Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol gynradd yn Abertawe'n dathlu cysylltiadau eithriadol â disgyblion

Mae perthnasoedd rhwng disgyblion ac athrawon mewn ysgol gynradd yn Abertawe yn eithriadol, yn ôl adroddiad arolygu diweddar.

Pengelli Primary

Mae Ysgol Gynradd Pengelli yng nghymuned Pengelli yng ngogledd Abertawe wedi derbyn canlyniadau Arolygiad Estyn yn ddiweddar, a gwblhawyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn yr adroddiad, disgrifiwyd y cysylltiadau rhwng disgyblion ac athrawon fel eithriadol ac mae'n arwain at safonau ymddygiad da ac agweddau cadarnhaol at ddysgu.

Disgrifir bod disgyblion yn ganolog i waith yr ysgol ac mae gan arweinwyr ym Mhengelli ddisgwyliadau uchel gan bawb yn yr ysgol.

Mae cwricwlwm yr ysgol yn cynnwys ystod gyfoethog a dilys o brofiadau dysgu. Mae athrawon yn datblygu sgiliau disgyblion yn dda ac mewn modd ystyriol a chreadigol ar draws ehangder y Cwricwlwm i Gymru.

Mae disgyblion hefyd yn elwa o lawer o gyfleoedd i ddatblygu a mireinio'u sgiliau corfforol, creadigol ac artistig.

Cafodd yr ysgol, sy'n cynnwys cyfanswm o 111 o ddisgyblion ar draws y blynyddoedd, ei chanmol hefyd am y cymorth ychwanegol a ddarperir i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Dywedodd yr adroddiad fod darpariaeth yr ysgol i ddisgyblion ag ADY yn rhagorol. Mae disgyblion ag ADY yn datblygu hyder ac yn gwneud cynnydd da tuag at eu nodau unigol. Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion y mae angen ychydig mwy o gymorth arnynt gyda'u dysgu yn sicrhau bod eu diddordeb yn cael ei ennyn yn dda a bod y rheini y mae angen cymorth emosiynol arnynt yn teimlo'n ddiogel i fynegi eu hunain.

Amlygwyd bod defnydd yr ysgol o'r Gymraeg yn faes lle'r oedd angen gwelliannau ac mae'r ysgol bellach yn bwriadu datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad.

Mae Pennaeth Ysgol Gynradd Pengelli, Helen Talaat, wrth ei bodd â chanlyniadau'r arolygiad. Meddai, "Mae'n rhoi boddhad mawr i bawb sy'n ymwneud â'r ysgol pan fydd corff allanol yn cydnabod ein gweledigaeth. Mae perthnasoedd â disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol yn ganolog i bopeth a wnawn - rydym wrth ein bodd â'r adroddiad.

"Mae'r holl staff wedi gweithio'n galed ar ddatblygu ein cwricwlwm ac maent yn gwerthfawrogi'r ffaith bod eu gwaith caled a'u hymroddiad yn cael eu cydnabod."

Dywedodd yr arolygwyr fod disgyblion yn falch o'u hysgol ac yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r wybodaeth y maent yn eu hennill a fydd yn eu helpu yn y dyfodol

Ychwanegodd Ms Talaat, "Mae hyn yn gwneud i ni sylweddoli bod yr hyn a wnawn yn werthfawr, oherwydd dyna yw diben ysgol."

Llongyfarchwyd yr ysgol am eu hymdrechion gan Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith. Meddai, "Mae'r adroddiad wedi dangos yn glir yr effaith gadarnhaol y mae athrawon yn ei chael ar yr holl ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Pengelli. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o hyn."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ionawr 2025