Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal chwarae newydd yn Long Ridge, Mayhill yn hafan i deuluoedd lleol

Mae'r ardal chwarae boblogaidd yn Long Ridge, Mayhill, wedi'i hagor yn swyddogol, gan gynnig lle bywiog i blant a theuluoedd o'r gymuned leol ei fwynhau.

longridge play area

Mae'r cyfleuster o'r radd flaenaf hwn yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £91,000 yn y gymuned, sydd wedi'i ariannu gan Gronfa Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe.

Mae'r ardal chwarae yn cynnwys cyfarpar arloesol sy'n addas ar gyfer plant o bob gallu, ac mae ganddi amrywiaeth o weithgareddau diddorol a chynhwysol.

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys siglenni, rowndabowt, ffrâm ddringo, uned aml-chwarae i blant bach, polion totem synhwyraidd ac ardal gemau amlddefnydd fach.

Gall teuluoedd hefyd fwynhau'r byrddau picnic, y meinciau a'r dysglau planhigion sydd wedi'u cynnal yn hyfryd, sy'n sicrhau bod yr ardal yn groesawgar i rieni a gofalwyr, yn ogystal â phlant.

Mae hygyrchedd wedi bod yn ffocws allweddol - mae'r cyfarpar cynhwysol yn cynnwys bwrdd picnic sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, polion totem synhwyraidd, blodau sy'n siarad, uned ddringo sy'n gwbl hygyrch, siglen fawr, carwsél, a siglen fach.

Mae'r dyluniad yn hyrwyddo amgylchedd lle gall pob plentyn gymryd rhan, archwilio a chwarae gyda'i gilydd.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, a Thwristiaeth, fod yr ardal chwarae newydd a gwblhawyd ym mis Medi yn noddfa go iawn ac yn ased gwerthfawr am ddim i deuluoedd lleol.

Meddai, "Mae ardaloedd chwarae fel yr un sydd yn Long Ridge yn hanfodol ar gyfer annog gweithgarwch corfforol, creadigrwydd a rhyngweithio cymdeithasol ymhlith plant."

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod rhwydwaith y Cyngor o ardaloedd chwarae newydd ac wedi'u hadnewyddu yn cael effaith gadarnhaol iawn ar gymunedau'r ddinas.

Meddai, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymdogaethau Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous er mwyn cael hwyl yn yr awyr agored."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025