Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn mynd rhagddo i wneud gwelliannau hanfodol i lwybr arfordir Gŵyr

Mae rhan o lwybr arfordir Gŵyr y mae erydu arfordirol wedi effeithio arni yn cael ei symud ymhellach i'r tir i helpu i gynnal y llwybr cerdded poblogaidd.

rotherslade path

Mae Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe wedi penodi contractwyr i greu rhan newydd o lwybr yr arfordir sy'n 370 metr o hyd ymhellach i'r tir, rhwng Rotherslade a Limeslade.

Oherwydd y gwaith i wella'r llwybr bydd y rhan wreiddiol o'r llwybr rhwng Rotherslade a Rams Tor yn cau ar unwaith (16 Ionawr) er mwyn cadw cerddwyr yn ddiogel wrth i'r gwelliannau gael eu cwblhau. Bydd llwybr amgen ar gael i gerddwyr yn ystod y rhan fwyaf o'r gwaith.

Nid yw'r gwaith diweddaraf yn effeithio ar weddill llwybr arfordir Gŵyr, sydd ar agor o hyd.

Bydd y rhan newydd o'r llwybr hefyd yn gwella'r llwybr gwreiddiol ac yn cynnwys llwybr concrit cwbl hygyrch 1.5 metr o led, sy'n addas i gerddwyr, rhieni â babanod mewn bygis a hefyd bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae llwybr arfordir Gŵyr yn gyrchfan poblogaidd y mae pobl yn mynd iddo drwy gydol y flwyddyn.

"Mae erydu arfordirol yn rhywbeth y mae angen i ni ymateb iddo pan mae'n cael effaith ar y llwybr. O ganlyniad i glogwyn ger y llwybr yn cwympo'n ddiweddar, rydym wedi gorfod gweithredu'n syth.

"Rydym bellach wedi cyrraedd cam pwysig lle gall ein contractwyr fynd ar y safle a dechrau ar y broses o greu'r rhan newydd o'r llwybr.

"Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn cau'r rhan wreiddiol fel y gellir defnyddio peiriannau ar gyfer y gwaith gwella yn ddiogel.

"Gosodwyd hysbysiadau o gau ger y safle yn cynghori'r cyhoedd am y gwaith disgwyliedig.

"Ein nod yw cwblhau'r gwaith erbyn dechrau'r gwanwyn a sicrhau bod y llwybr ar agor yn llawn ar gyfer tymor prysur yr haf.

"Yn bwysig, nid yw'r gwaith hwn yn effeithio ar weddill y llwybr ymhellach tuag at Gŵyr, a gall y cyhoedd barhau i fwynhau'r rhan fwyaf o'r llwybr hwn sy'n 61 cilomedr o hyd."

Mae'r cynllun diweddaraf hefyd yn dilyn gwaith a wnaed yn flaenorol ar y llwybr lle gosodwyd 270 metr o lwybr newydd yn dilyn cwympiad tebyg o'r clogwyn cyfagos.

 Ac mae 1.5 cilomedr pellach o lwybr yr arfordir hefyd wedi cael ei wella yn y gorffennol rhwng Bae Caswell a Langland.

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61 cilomedr o lwybr yr arfordir gyda'i gilydd er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rwy'n credu bod llwybr yr arfordir ar hyd Abertawe a Gŵyr yn cynnig rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol o forlin Cymru. Mae'n arbennig o hardd, a byddwn yn annog unrhyw un nad yw wedi'i brofi eto i fynd am dro a mwynhau'r golygfeydd."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025