Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - CelfGyhoeddus
Ar waith nawr ar forglawdd newydd y Mwmbwls yn Oyster Wharf: Darluniadau concrit o ecoleg yr ardal.
Maent yn seiliedig ar ddyluniadau'r artist o Abertawe, Catrin Jones.Mae'r delweddau'n cynnwys wystrys, pïod y môr, pysgod, pyrsiau'r fôr-forwyn, sêr môr a cherrig bychain.
Rydym yn gwella ac yn adnewyddu amddiffynfeydd môr arfordirol y Mwmbwls.
Bydd y gwaith yn lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau sy'n cael eu bygwth gan lefelau'r môr yn codi a achosir gan newid yn yr hinsawdd.
Sicrhawyd cyllid ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd drwy Lywodraeth Cymru - ac rydym yn falch bod barn y cyhoedd, busnesau ac eraill wedi helpu i lunio'r prosiect sylweddol hwn.