Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyfleusterau chwarae wedi'u lansio yn Abertawe

Mae plant Abertawe'n dathlu agoriad dau gyfleuster chwarae a chwaraeon newydd sbon yn y ddinas.

multi use games area

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â dwsinau o blant mewn dwy gymuned leol, Treforys a Blaen-y-maes, lle mae dwy ardal gemau amlddefnydd wedi'u hagor yn swyddogol.

Mae'r ardaloedd gemau pwrpasol ym Mharc Treforys a Broughton Avenue yn ardal Blaen-y-maes yn rhan o fuddsoddiad parhaus y Cyngor o £7m mewn ardaloedd chwarae i blant yn y ddinas.

Mae'r safle newydd a agorwyd ym Mharc Treforys yn cynnwys ardal gemau amlddefnydd a bwrdd Teqballcyntaf Abertawe, sef bwrdd crwn sy'n debyg i fwrdd tenis bwrdd, ond fe'i defnyddir gyda phêl-droed yn lle bat a phêl.

Cafodd yr ardal chwarae yn y safle yn Nhreforys ei huwchraddio'n flaenorol fel rhan o gam cynharach o welliannau chwarae cyffredinol ar draws Abertawe.

Gellir chwarae amrywiaeth eang o gampau yn y ddau leoliad, gan gynnwys pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd a badminton.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wedi cofrestru ar gyfer Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig, wrth i ni geisio sicrhau bod gan holl blant Abertawe fynediad at offer, ni waeth ble yn y ddinas maent yn byw.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn disodli ac yn uwchraddio'r holl offer chwarae mewn parciau ac ardaloedd chwarae ar draws Abertawe.

"Rydym wedi buddsoddi mwy na £7m hyd yn hyn i gwblhau'r gwaith uwchraddio hwn ac i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at offer chwarae o ansawdd uchel yn eu cymuned.

"Pan ddigwyddodd pandemig COVID, dangosodd hynny pa mor bwysig yw parciau ar gyfer ein preswylwyr felly rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein parciau'n fannau lle mae teuluoedd a phlant am fynd iddynt a chael hwyl am genedlaethau i ddod."

Mae ardaloedd chwarae mewn ardaloedd eraill o'r ddinas hefyd wedi cael eu huwchraddio a'u hagor yn swyddogol, gan gynnwys lleoliad newydd gwych yn Long Ridge, Mayhill.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod rhwydwaith y Cyngor o ardaloedd chwarae newydd ac wedi'u hadnewyddu'n cael effaith gadarnhaol iawn ar gymunedau'r ddinas.

Meddai, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymdogaethau Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous er mwyn cael hwyl yn yr awyr agored.

"Mae Long Ridge bellach wedi dod yn fan boblogaidd i deuluoedd, sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i blant ddysgu a thyfu drwy chwarae."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Chwefror 2025