Digwyddiad Abertawe Greadigol mewn partneriaeth â Tramshed Tech.
Ydych chi'n fusnes bach, yn ficrofusnes neu'n weithiwr llawrydd sy'n gweithio ym maes diwydiannau creadigol yn Abertawe?


A fyddech yn elwa o gyngor arbenigol a chymorth ariannol?
Mae Cyngor Abertawe, trwy ei rwydwaith sector creadigol a diwylliannol Abertawe Greadigol, yn darparu bwrsariaeth i gefnogi gweithwyr proffesiynol a busnesau sy'n gweithio o fewn y sectorau Cynnwys a/neu Dechnoleg Greadigol. Mae'r fwrsariaeth yn cynnwys aelodaeth ran-amser yn Tramshed Tech Abertawe, gan gynnwys rhwydwaith cymunedol a busnes TT.
Bydd Abertawe Greadigol yn cynnal digwyddiad cymdeithasu yn Theatr y Palace ar 10 Chwefror 2025 i'ch cyflwyno i'r cyfle cyffrous hwn. Mae'r digwyddiad am ddim ond mae'n hanfodol cadw lle. www.ticketsource.co.uk/creative-swansea-network
Dewch i'r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn trafod cymhwysedd, y cymorth sydd ar gael a'r bwrsari a fydd yn cael ei ddyfarnu, ac yn rhoi cymorth ar sut i gyflwyno'ch cais.
Gall y rhai sy'n gymwys gyflwyno cais ar ddiwrnod y digwyddiad. Dylid cwblhau'r cais a'i e-bostio i ContactCreative@abertawe.gov.uk erbyn 3 Mawrth 2025.
Gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i gyflwyno eu syniadau yn y digwyddiad ar 14 Mawrth 2025, felly mae angen i chi fod ar gael ar y dyddiad hwn.
Rhoddir bwrsarïau gwerth hyd at £5000 i 10 busnes/gweithiwr llawrydd i fynd tuag at ddatblygu eu busnes creadigol ymhellach, yn ogystal ag aelodaeth am flwyddyn â Tramshed Tech.
Bydd yr aelodaeth hon y caniatáu mynediad i le ar gyfer rhannu mannau gwaith yn Theatr y Palace, yn ogystal â'r cyfle i ymgysylltu â rhwydwaith a chymuned helaeth ar draws safleoedd Tramshed Tech.
Bydd y wobr hefyd yn cynnwys pecyn cymorth pwrpasol a phersonol sy'n cynnig cyngor, mentora a chefnogaeth gan dîm Tramshed Tech, yn ogystal â digwyddiadau, adnoddau a rhaglenni.
I gael rhagor o wybodaeth am aelodaeth â Tramshed Tech, ewch i: https://www.tramshedtech.co.uk/community/
Rydym yn edrych ymlaen at weld sut gall Abertawe Greadigol a Tramshed Tech gefnogi eich busnes creadigol ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!