Mae rhan newydd o lwybr yr arfordir ar hyd penrhyn Gŵyr wedi'i chwblhau'n gyflym.
Cyflwynodd Cyngor Abertawe'r contractwyr i ddechrau ar y gwaith yng nghanol mis Ionawr er mwyn helpu i greu rhan newydd o lwybr ger Rotherslade, gan fod perygl erydu arfordirol o dan y rhan honno o'r llwybr.
Bydd y rhan newydd o'r llwybr hefyd yn gwella'r llwybr gwreiddiol ac yn cynnwys llwybr concrit cwbl hygyrch 1.5 metr o led, sy'n addas i gerddwyr, rhieni â babanod mewn bygis a hefyd bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae llwybr arfordir Gŵyr yn gyrchfan poblogaidd y mae pobl yn mynd iddo drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r cynllun diweddaraf hefyd yn dilyn gwaith a wnaed yn flaenorol ar y llwybr lle gosodwyd 270 metr o lwybr newydd yn dilyn cwympiad tebyg o'r clogwyn cyfagos.
Ac mae 1.5 cilomedr pellach o lwybr yr arfordir hefyd wedi cael ei wella yn y gorffennol rhwng Bae Caswell a Langland.
Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61 cilomedr o lwybr yr arfordir gyda'i gilydd er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rwy'n credu bod llwybr yr arfordir ar hyd Abertawe a Gŵyr yn cynnig rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol o forlin Cymru. Mae'n arbennig o hardd, a byddwn yn annog unrhyw un nad yw wedi'i brofi eto i fynd am dro a mwynhau'r golygfeydd."