Mae bysus am ddim Abertawe yn ôl ar gyfer gwyliau'r Pasg, gan ddechrau ddydd Sadwrn 12 Ebrill ac yn dod i ben ar 27 Ebrill.
Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu cyfanswm o naw niwrnod o deithio am ddim a fydd ar gael i bawb sy'n defnyddio bysus yn Abertawe.

Bydd teuluoedd yn y ddinas yn gallu gwneud yn fawr o'r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig, gan gynnwys teithiau i ganol y ddinas i wneud ychydig o siopa a chael tamaid i'w fwyta, neu fynd ar fws i'r Mwmbwls a rhannau eraill o arfordir Gŵyr.
Croesawyd y cynnig diweddaraf gan Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ac mae'n gobeithio y bydd pawb yn manteisio arno. Meddai, "Ers i ni lansio'r cynnig, mae pobl wedi mwynhau tua 1,000,000 o deithiau am ddim ar fysus.
"Gall y Pasg fod yn amser drud i bawb, ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall teuluoedd yn Abertawe arbed ychydig o arian ar gostau teithio, gadael y car adref ac arbed eu harian petrol i'w wario ar bethau eraill.
"Mae canol y ddinas yn gyrchfan siopa gwych i bobl sydd am gael taith am ddim. Ond mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd deithio ar draws Abertawe gyfan i ymweld â theulu neu fwynhau'r hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Un o'r prif nodau yw annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn Abertawe.
"Gwyddom fod llawer o bobl yn teithio mewn car, ac efallai nad ydynt wedi bod ar fws o'r blaen. Mae'r cynnig am ddim hwn yn ffordd wych o gyflwyno mwy o bobl i gludiant cyhoeddus a lleihau nifer y ceir ar ein ffyrdd.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi gweithredwyr cludiant cyhoeddus yn Abertawe ac yn gwneud popeth y gallwn i gynyddu nifer y teithwyr."
Bydd y cynnig teithio ar fysus am ddim ar gael ym mis Ebrill ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Sadwrn 12 Ebrill
Dydd Sul 13, Ebrill
Dydd Llun, 14 Ebrill
Dydd Gwener y Groglith, 18 Ebrill
Dydd Sadwrn 19 Ebrill
Dydd Sul y Pasg, 20 Ebrill
Dydd Llun y Pasg 21 Ebrill
Dydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Ebrill.