Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyhoedd yn gallu helpu'r cyngor i gynllunio datblygiad Abertawe yn y dyfodol

Gall preswylwyr a busnesau yn Abertawe fynegi eu barn yn awr ar gynllun allweddol a fydd yn helpu i ddatblygu'r ddinas am flynyddoedd i ddod.

Arena and marina

Mae Cyngor Abertawe'n ddiweddar wedi cymeradwyo cam diweddaraf y broses Cynllun Datblygu Lleol (CDLl2) - arweiniad cynllunio allweddol sy'n nodi sut a ble y defnyddir tir yn y ddinas hyd at 2038.

Mae'r weledigaeth tymor hir wedi'i chyhoeddi'n ddiweddar, sef y Cynllun Cyn-adneuo neu'r Strategaeth a Ffefrir ac mae'n rhoi trosolwg manwl o sut mae'r cyngor yn gweld y ddinas yn datblygu yn ystod yr 13 blynedd nesaf.

Mae popeth o ddatblygiadau tai, adeiladu ysgolion newydd, datblygiad economaidd, yr amgylchedd naturiol ac isadeiledd trafnidiaeth wedi'u cynnwys yn y Strategaeth a Ffefrir.

Mae'r cyngor yn gwahodd y cyhoedd yn awr i fynegi eu barn am y ddogfen strategol bwysig.

Disgwylir i'r CDLl2 wedi'i gwblhau, y cyfeirir ato hefyd fel y Cynllun Adnau, gael ei fabwysiadu gan y cyngor yn 2027. Unwaith y caiff ei fabwysiadu, caiff y cynllun ei ddefnyddio i arwain yr holl geisiadau cynllunio sy'n cael eu hystyried gan y cyngor.

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae hyn yn rhan bwysig o ddatblygiad CDLl2. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn helpu'r cyngor i gyflwyno'i ymagwedd strategol at sut rydym yn bwriadu datblygu Abertawe hyd at 2028.

"Dyma lle'r ydym yn disgrifio'n fras y weledigaeth ar gyfer Abertawe, sut rydym yn gweld y ddinas yn datblygu o ran tai a datblygiad economaidd. Mae hefyd yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer gwarchod yr amgylchedd naturiol ac elfennau hanesyddol o'r ddinas.

"Mae gan y cyhoedd gyfle'n awr i gymryd rhan yn y broses a mynegi eu barn am y cam hwn o'r broses gynllunio.

"Mae rhoi cynllun o'r maint hwn ynghyd yn broses hir a manwl. Drwy gydol y broses hon, mae'n bwysig ein bod yn ymgynghori â'r cyhoedd ac yn ystyried eu barn, cyn mabwysiadu'r cynllun wedi'i gwblhau.

Mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru lunio Cynllun Datblygu Lleol. Yn Abertawe, bydd y cynllun yn disodli'r CDLl presennol sy'n rhedeg rhwng 2010 - 2025.

I ddweud eich dweud ar CDLl2 ac i ymweld â'r arddangosfa rithwir, ewch i Cynllun Datblygu Lleol (CDLl2) - Strategaeth a Ffefrir

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mawrth 2025