Cytundeb i wario mwy nag erioed ar wasanaethau o bwys
Mae'r cyngor wedi cytuno i wario mwy nag erioed ar y gwasanaethau sy'n bwysig i bobl Abertawe.

Bydd addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael cyfanswm gwerth £425m rhyngddynt. Mae oddeutu £56m yn cael ei neilltuo i adeiladu cartrefi newydd a gwella miloedd o gartrefi eraill, yn ogystal â helpu pobl yn ystod yr argyfwng digartrefedd.
Ar ben hynny, rhoddir cyllid gwerth £24m i atgyweirio ffyrdd a llenwi tyllau mewn ffyrdd, oddeutu £2m ar gyfer parciau sglefrio, yn ogystal â llwybrau mwy hygyrch mewn parciau, ac ystafelloedd newid mwy modern i hyrwyddo chwaraeon i fechgyn a merched ifanc.
Hefyd, mae'r fenter arloesol i gynnig bysus am ddim, a ddefnyddiwyd fwy na miliwn o weithiau hyd yn hyn, yn ôl mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Byddwn yn gwneud hyn i gyd a llawer mwy dros y misoedd nesaf, a hynny am gynnydd gwerth £1.46 yr wythnos ar Dreth y Cyngor ar gyfer cartref band B arferol - sy'n llai na chost paned o goffi."
Yr uchafbwyntiau eraill y cytunwyd arnynt yng nghyllidebau refeniw a chyfalaf y cyngor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yw:
· Y swm mwyaf erioed, £229m, ar gyfer ysgolion ac addysg
· Buddsoddiad gwerth £196m - unwaith eto'r swm mwyaf erioed - i ddarparu gofal i blant, oedolion a phobl hŷn sy'n agored i niwed
· Caiff mwy o staff eu recriwtio i gasglu gwastraff ac ailgylchu wrth ymyl y ffordd
· £18m ar gyfer prosiectau i warchod ein treftadaeth
· £8.8m ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell - mae'r gwaith trawsnewid yn dechrau eleni
· £1.3m ar gyfer cae 3G yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe
· £800,000 arall ar gyfer ein hymgyrchoedd Yma i Chi megis lleoedd llesol cynnes yn Abertawe yn ystod y gaeaf, a chymorth bwyd a gweithgareddau yn ystod gwyliau'r haf i blant
· £56m i adeiladu a chaffael cartrefi mwy fforddiadwy i'w rhentu, parhau i uwchraddio cartrefi ar gyfer tenantiaid a sicrhau bod llety ar gael i bob person digartref
· Cymunedau glanach diolch i finiau newydd a rhagor o fuddsoddiad mewn timau a wnaeth dacluso 1,300 o safleoedd yn Abertawe y llynedd
· Gwaith uwchraddio i osod rhagor o oleuadau ar ffurf promenâd ar gyfer ein llwybrau beicio a cherdded
Yn gyffredinol, bydd y cyngor yn gwario swm sy'n cyfateb i £5,400 ar bob aelwyd yn Abertawe yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y cynnydd gwerth 5.95% yn Nhreth y Cyngor yn cynnwys ychydig yn llai nag 1% i ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru, sy'n golygu bod y cynnydd go iawn yn Nhreth y Cyngor yn agosach at 5.2%.