Cerbydau casglu gwastraff cartref newydd bellach ar ffyrdd Abertawe
Mae wyth cerbyd casglu gwastraff cartref tra chyfoes newydd sbon wedi cael eu hychwanegu at gerbydlu Abertawe sy'n tyfu.
Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn 8 cerbyd newydd, ar ôl buddsoddi £1.4m i brynu'r cyfarpar arbenigol a chan bartneru ag un o'r gwneuthurwyr arweiniol, NTM.
Mae dyfodiad y cerbydau diweddaraf hyn yn golygu bod y cyngor bellach wedi buddsoddi cyfanswm o £8 miliwn yn ei gerbydlu, ac mae cyfanswm o 35 o gerbydau casglu gwastraff newydd wedi cyrraedd strydoedd Abertawe yn ystod y 12 mis diwethaf.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cyngor Abertawe, "Pan gymeradwyom ein cyllideb flynyddol yn gynharach eleni, ymrwymom i fuddsoddi mwy nag £8 miliwn tuag at gael cerbydlu newydd ac rwy'n falch bod hyn bellach yn digwydd.
"Mae'r cerbydau casglu hyn yn teithio pellterau eang yn ystod oes ein contractau cerbydau.
Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein cerbydlu cerbydau casglu gwastraff yn cael eu hadnewyddu ac yn gallu darparu'r dibynadwyedd y mae ei angen arnom i ddarparu casgliadau wythnosol i breswylwyr yn y ddinas.
Meddai Martin Jones, Rheolwr Gwerthiannau Ardal NTM, "Mae'n wych gweld bod Cyngor Abertawe yn parhau i fuddsoddi yn eu cerbydlu casglu gwastraff, ac rydym yn ymroddedig i ddarparu atebion dibynadwy o safon i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol y mae Abertawe'n eu darparu i'r ddinas.
"Rydym yn falch iawn o weld y cerbydau newydd yn gweithredu, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaeth a'u cefnogi yn y dyfodol."