Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynlluniau i fuddsoddi £20m yn rhwydwaith ffyrdd Abertawe

road resurfacing

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi cyfanswm mwy nag erioed, sef £20m, yn rhwydwaith priffyrdd y ddinas yn 2025.

Bydd amrywiaeth eang o brosiectau sy'n gysylltiedig â phriffyrdd yn elwa o'r buddsoddiad arfaethedig, gan gynnwys ailwynebu ffyrdd pwysig yn y ddinas.

Bydd palmentydd hefyd yn cael eu huwchraddio fel rhan o'r cynlluniau cynnal a chadw blynyddol, ynghyd ag adnewyddu goleuadau stryd, cynnal a chadw pontydd a gwelliannau ym marina'r ddinas.

Mae'r cyngor eisoes wedi cymeradwyo £3.468m fel rhan o'r gyllideb ddiweddar a fydd yn helpu i ariannu'r brif raglen cynnal a chadw priffyrdd ac yn clustnodi ffyrdd yr aseswyd eisoes fod angen iddynt gael eu huwchraddio.

Gwnaed cyhoeddiad diweddar hefyd ynghylch cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, lle mae £1.4m a ddyfarnwyd i'r cyngor yn flaenorol yn cael ei wario eleni ar welliannau i lwybrau cerdded a beicio drwy Ddyffryn Clun ac ar hyd coridor Glannau'r Tawe.

Cynigir rhagor o gyllid bellach fel rhan o fuddsoddiad cyffredinol gwerth £20m a dylai'r Cabinet gytuno arno yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth.

Bydd yr adroddiad cynnal a chadw isadeiledd priffyrdd diweddaraf a gyflwynir i'r Cabinet yr wythnos nesaf yn ceisio cymeradwyo buddsoddiad gwerth £11.7m (gan gynnwys dyraniad cyllidebol gwerth £3.468m).

Ynghyd â chyllido'r rhaglen cynnal a chadw y cytunwyd arni ar gyfer ffyrdd yn Abertawe, bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i dalu am ragor o waith i lenwi tyllau yn y ffyrdd a chynlluniau ailwynebu bach.

Nodwyd cyllid hefyd fel rhan o'r rhaglen waith i uwchraddio rhan arall o Lwybr Arfordir Gŵyr rhwng Limeslade a Rotherslade, gan ddilyn gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yn y lleoliad.

Mae rheiliau newydd hefyd yn yr arfaeth yng nghyrchfan glan môr poblogaidd Knab Rock.

Bydd adroddiad arall i'r Cabinet ym mis Mawrth hefyd yn ceisio cymeradwyo cyllid grant gwerth mwy na £6m i wella llwybrau allweddol yn Abertawe a chreu hyd yn oed mwy o lwybrau cerdded a beicio yn y ddinas.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Abertawe'n ddinas fawr sy'n meddu ar rwydwaith priffyrdd helaeth ac rydym yn cydnabod bod angen buddsoddi cymaint ag y gallwn i gynnal a chadw ein ffyrdd, ein troedffyrdd ac isadeiledd arall megis goleuadau stryd, arwyddion traffig a phontydd.

"Rydym yn gwneud ymrwymiad sylweddol ar gyfer 2025/26, o bosib y buddsoddiad mwyaf hyd yn hyn, er mwyn sicrhau y gallwn gynnal a chadw ein hasedau a'n hardaloedd targed lle mae galw mawr ar ein rhwydwaith.

"Mae tywydd garw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi amlygu ardaloedd lle mae angen i ni wella systemau draenio ar hyd ein rhwydwaith, felly bydd buddsoddiad sylweddol tuag at hyn hefyd."

Yn 2024/25, gwnaeth timau cynnal a chadw priffyrdd y cyngor lenwi mwy na 5,000 o dyllau yn y ffyrdd ac ailwynebu prif ffyrdd am bellter o 13km.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Gweithiodd ein timau cynnal a chadw'n galed iawn y llynedd ac rydym yn disgwyl yr un ymrwymiad eleni. Mae'r cyhoedd hefyd wedi gwneud cyfraniad drwy roi gwybod i'r cyngor am dyllau yn y ffyrdd a diffygion eraill fel y gallwn ymateb cyn gynted â phosib."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mawrth 2025