Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Castell Ystumllwynarth yn agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2025

Mae Castell Ystumllwynarth yn falch o gyhoeddi ei fod yn ailagor ar gyfer tymor 2025, gan wahodd ymwelwyr, preswylwyr a'r rhai hynny sy'n frwd dros hanes i archwilio'r tirnod eiconig hwn.

Oystermouth Castle

Bydd y castell yn ailagor yn swyddogol ddydd Sadwrn, 5 Ebrill a bydd yn croesawu gwesteion saith niwrnod yr wythnos o 11am i 5pm, gyda'r mynediad olaf am 4.30pm. Rheolir y safle gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, ac mae'n parhau i fod yn rhan hynod boblogaidd o'r gymuned. I gydnabod ymdrechion rhagorol eu haelodau, dyfarnwyd Gwobr Wirfoddol y Brenin i'r grŵp yn 2024.

Meddai Paul Lewis, Cadeirydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, "Er mwyn cadw ymweliadau'n fforddiadwy i deuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd prisiau tocynnau'n aros yr un peth ag y buont dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhagor o ymwelwyr i'r castell yn 2025, rhai newydd a chyfarwydd."

Pris tocyn teulu (dau oedolyn a thri phlentyn) yw £18, gan ei wneud yn gyrchfan hygyrch a phleserus i bawb. Drwy gydol y gwanwyn a'r haf, bydd y castell yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr, gan ddechrau gyda Gwerin y Gŵyr a Helfa Bwni'r Pasg.

Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, "Mae'r castell yn cynnig cipolwg i ymwelwyr ar dreftadaeth gyfoethog ein rhanbarth, gan hefyd gynnig cyfle i archwilio siopau, bwytai ac atyniadau gwych y Mwmbwls."

Gall ymwelwyr â Chastell Ystumllwynarth edmygu ei waith celf o'r 14eg ganrif, cerdded ar draws y bont wydr 30 troedfedd o uchder ac archwilio'r grisiau preifat sy'n mynd o'r cromgelloedd cudd i'r hen neuaddau gwledda.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, teithiau tywys ac oriau agor drwy fynd i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mawrth 2025