Help ar gael ar-lein i feicwyr sydd am ddefnyddio hen lwybrau ceffyl Gŵyr
Gall beicwyr sy'n hoff o antur feicio ar hyd 27 cilometr o lwybrau beicio oddi ar y ffordd ar draws rhai o'r tirweddau mwyaf darluniadwy yng Nghymru
Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu map ar-lein sy'n dangos y llwybrau beicio oddi ar y ffordd mewn rhannau o benrhyn Gŵyr, gan gynnwys Rhosili a Llanmadog.
Mae'r map newydd ar gael i'w lawrlwytho i ffonau clyfar a gall y rheini sy'n dwlu ar feicio ei ddefnyddio i chwilio'r ffordd ar hyd rhwydwaith o hen lwybrau ceffyl sydd wedi bodoli ers canrifoedd.
Ar hyd y llwybrau gall beicwyr fwynhau golygfeydd trawiadol o Fynydd Rhosili a Bryn Llanmadog ar draws Bae Caerfyrddin i Ddinbych-y-pysgod, a Môr Hafren i ogledd Dyfnaint, gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog i'r gogledd.
Mae'r map a'r gwe-dudalennau newydd ar-lein yn darparu llawer o gyngor i feicwyr, gan gynnwys gwybodaeth i ymwelwyr am barcio ceir, toiledau, gwybodaeth gyffredinol am feicio yng nghefn gwlad, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch beth i'w wneud os ydych yn cyfarfod â marchogwyr sy'n defnyddio'r llwybrau ceffyl.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Gŵyr yn adnabyddus ar draws y byd am ei morlin hardd a'i thirweddau unigryw.
"Yn ogystal â bod yn lle gwych i gerdded ac ymweld ag ef, mae digonedd o lwybrau llai hysbys sy'n hygyrch ar gyfer beicio oddi ar y ffordd, sy'n rhoi golwg gwahanol ar benrhyn Gŵyr.
"Mae ein Tîm Mynediad i Gefn Gwlad wedi creu map o'r llwybr ar-lein, ac mae digonedd o awgrymiadau a chyngor i ymwelwyr sy'n dymuno gweld Gŵyr ar gefn beic."
Yn ddiweddar, mae'r cyngor hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau pellach i wella rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr, sy'n dilyn gwelliannau a wnaed eisoes i ran o'r llwybr rhwng Rotherslade a Limeslade.
Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61 cilomedr o lwybr yr arfordir gyda'i gilydd er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens; "Mae Gŵyr yn fwy hygyrch nag erioed i gerddwyr a beicwyr. Rydym wedi parhau i wella rhannau o lwybr yr arfordir fel y gall pawb sy'n ei ddefnyddio fwynhau prydferthwch Gŵyr.
"Mae'r tywydd yn dechrau cynhesu, a byddwn yn annog pawb i fynd ar daith i benrhyn Gŵyr i fwynhau'r hyn y mae gan y rhanbarth i'w gynnig - naill ai ar droed neu ar gefn beic."
I lawrlwytho'r map beicio oddi ar y ffordd diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r llwybrau, ewch i www.abertawe.gov.uk/beiciooddiaryfforddgwyr?lang=cy