Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Croesawu creaduriaid newydd sbon i Barc Singleton

Roedd croeso cynnes i barc jwrasig newydd Parc Singleton wrth i bedwar dinosor enfawr gael eu gosod yn y parc.

dinosaur singleton park creature

Y creaduriaid hyn yw'r nodwedd ddiweddaraf yn y parc eiconig i deuluoedd ac maent wedi cael eu gosod mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg.

Diolch i rodd hael gan Day's Motor Group, grŵp gwerthwyr ceir teuluol mwyaf Cymru, bydd y parc bellach yn gartref i'r creaduriaid anferth hyn sy'n cynnwys Tyranosor (T Rex), Trichorn a Stegosawrws.

Penododd y cyngor yr artist murlun lleol poblogaidd, Hasan Kamil, i ychwanegu rhywfaint o liw jwrasig at y creaduriaid er mwyn gwneud iddynt edrych yn fwy realistig, fel y gall teuluoedd eu mwynhau.

Mae'r gosodiad hwn yn addo codi statws Parc Singleton fel prif gyrchfan i deuluoedd a'r rhai sy'n dwlu ar ddinosoriaid, gan hefyd ddarparu cyfleoedd addysgol sy'n gysylltiedig â byd diddorol dinosoriaid a phalaeontoleg.

Mae'r cyfan yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i wella parciau ac ardaloedd chwarae ein dinas fel rhan o gynlluniau y cytunwyd arnynt gan y cyngor llawn fis diwethaf.

Byddwn yn gwneud iawn am unrhyw darfu a achosir i'r parc unwaith y bydd y gwaith gosod wedi'i gwblhau.

Y dinosoriaid yw'r ychwanegiad diweddaraf at ystod o welliannau i'r parc sydd wedi cynnwys y canlynol:

  • Gwella ansawdd dŵr a chynyddu lefelau ocsigen yn y llyn i roi hwb i amgylchedd y llyn er budd y pysgod, yr amffibiaid a'r creaduriaid di-asgwrn-cefn drwy ddulliau cael gwared â silt anfewnwthiol
  • Creu ardal ddysgu newydd sef y gornel natur ger y llyn.
  • Hysbysfyrddau gwybodaeth newydd sy'n rhoi sylw i fywyd gwyllt lleol yr ardal
  • Gwell draenio yn y parc
  • Gwelliannau i'r cwrs golff gwallgof a gwaith uwchraddio pellach i'r pedalos

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Bydd pedwar preswylydd newydd Parc Singleton yn ychwanegiad gwych at yr atyniadau yn y llyn cychod.

"Bydd teuluoedd wrth eu boddau'n darganfod y creaduriaid cynhanesyddol hyn wrth archwilio'r parc, ac rwy'n siŵr y byddant yn llwyddiant ysgubol. Diolch yn fawr iawn i Day's Motor Group am y rhodd hon."

Ychwanegodd, "Cawsom gyngor gan arbenigwyr ecolegol ynghylch y ffordd orau o wella bywyd gwyllt yn y llyn ac yn yr ardal gyfagos. Dangosodd eu hadolygiad y byddai pysgod, amffibiaid a chreaduriaid di-asgwrn-cefn yn elwa o'r dulliau cael gwared â silt anfewnwthiol yr ydym wedi'u dilyn.

"Byddwn yn gwneud iawn am unrhyw darfu dros dro a achosir a byddwn yn sicrhau nad yw'r newidiadau'n effeithio ar y gwyddau lleol poblogaidd."

Mae buddsoddiad y cytunwyd arno yng nghyfarfod cyllideb y cyngor fis diwethaf hefyd yn golygu y bydd rhannau o'r rheiliau o amgylch y parc hefyd yn cael eu huwchraddio.

Meddai Russ Day, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol Day's Motor Group, "Mae Day's yn falch o allu rhoddi ein dinosoriaid eiconig i Gyngor Abertawe i helpu i greu atyniad ym Mharc Singleton.

"Mae'r rhodd hon yn atgyfnerthu ymrwymiad Day's i gefnogi'r gymuned a chydweithio â'r tîm gwych yng Nghyngor Abertawe."

Gallwch gael y diweddaraf am yr holl atyniadau awyr agored yn Abertawe ar croesobaeabertawe.com neu wrth ddilyn @joioabertawe ar Facebook, X ac Instagram. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2025