Awgrymiadau da yn cael eu rhoi i'r cyhoedd i helpu i wella ansawdd aer
Mae awgrymiadau da yn cael eu rhoi i breswylwyr yn Abertawe ar ddiogelu eu hunain rhag ansawdd aer gwael yn ogystal â sut i'w wella.
Mae Tîm Llygredd Cyngor Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe fel rhan o astudiaeth ar draws y ddinas ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd aer a'u hagwedd ato, ac achosion cyffredin ansawdd aer gwael.
Mae allyriadau o gerbydau ac awyru gwael yn y cartref wedi'u cynnwys mewn ymgyrch ymwybyddiaeth newydd sydd ar waith yn y ddinas.
Mae nifer o bosteri gwybodaeth wedi'u harddangos yn ddiweddar mewn safleoedd bysus yn Abertawe, y mae pob un ohonynt yn darparu awgrymiadau da defnyddiol i leihau risgiau i'r cyhoedd, fel sefyll ymhellach yn ôl o ymyl y ffordd pan fyddant allan yn cerdded.
Tynnir sylw at fotorau ceir sy'n segura wrth oleuadau traffig hefyd yn yr ymgyrch fel rhywbeth sy'n cyfrannu at ansawdd aer gwael a gofynnir i fodurwyr ddiffodd eu motorau os yw'r car yn llonydd am gyfnod hir.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol; "Mae monitro ansawdd aer yn y ddinas ac edrych ar ffyrdd o leihau llygredd aer yn ogystal â hyrwyddo cymunedau iachach yn rhan o gyfrifoldeb y cyngor.
"Nod yr astudiaeth ddiweddaraf rydym yn gweithio arni mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe yw rhoi cyfres o awgrymiadau da defnyddiol i'r cyhoedd sy'n cynorthwyo wrth leihau effaith ansawdd aer gwael yn eich cymuned."
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio gyda'r cyngor i gyflwyno'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Diben yr ymgyrch yw gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o lygredd aer a'r ffyrdd y gallwn wneud newidiadau bach a syml yn ein bywydau beunyddiol i helpu i leihau llygredd aer ac anadlu aer glanach.