Gwasanaeth cefnogi hanfodol ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd yn Abertawe'n derbyn gwobr genedlaethol
Mae prosiect digartrefedd yn Abertawe sy'n newid bywydau wedi derbyn gwobr arbennig am helpu pobl i ddianc rhag digartrefedd a chysgu ar y stryd.

Mae The Wallich, gwasanaeth tai a ariennir gan Gyngor Abertawe, wedi derbyn achrediad Tai yn Gyntaf - gwobr a gydnabyddir yn genedlaethol a gyflwynir i wasanaethau ar draws y wlad am y gwaith caled a wneir a'r ymroddiad wrth fynd i'r afael â digartrefedd.
Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant, ag Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart a'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, Andrea Lewis, i gyflwyno'r wobr arbennig i The Wallich yn ystod ymweliad diweddar â'r ganolfan yn Abertawe.
Mae'r cyngor wedi canmol gwaith caled ac ymroddiad gwasanaeth The Wallich yn eu hymdrechion i weithio gyda phobl sydd wedi hen arfer â bod yn ddigartref, gan eu helpu i drawsnewid eu bywydau.
Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, "Rydym yn hynod falch o bawb sy'n rhan o brosiect The Wallich.
"Maent ar flaen y gad wrth helpu pobl sy'n wynebu trafferthion yn eu bywydau ac yn gweithio'n galed iawn i wneud gwahaniaeth i unigolion a theuluoedd, gan weithio ochr yn ochr â'r cyngor i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y ddinas.
"Mae'r model Tai yn Gyntaf yn ymagwedd a gydnabyddir yn genedlaethol at fynd i'r afael â materion digartrefedd, ac mae derbyn yr achrediad hwn yn dangos y gwaith caled a'r ymdrech a wneir gan bawb sy'n rhan o The Wallich."
Meddai Anna Hooper o The Wallich, "Rydym wrth ein boddau o dderbyn yr achrediad, a'r gydnabyddiaeth am yr holl waith caled y mae'r tîm yn ei wneud yn y gwasanaeth hwn. Ni fyddem wedi cyflawni hyn heb gefnogaeth ein holl bartneriaid yma yn Abertawe. Rydym yn falch iawn o'n gwasanaeth Tai yn Gyntaf."
Datblygwyd y model Tai yn Gyntaf yng Nghymru yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol ynghylch ymgysylltu â phobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd ers tro ac wedi hen arfer â gwneud hynny, a gweithio gyda hwy.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Gall y rhesymau dros pam y mae pobl yn dewis cysgu ar y stryd fod yn hynod gymhleth a gall gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, trawma a phroblemau iechyd meddwl a all arwain at amryfal anghenion cefnogi."
Mae Tai yn Gyntaf yn ymagwedd sy'n canolbwyntio ar adferiad at roi terfyn ar ddigartrefedd. Ei ffocws yw symud pobl i gartref sefydlog wrth ddarparu cefnogaeth amlasiantaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn am gyhyd ag y mae ei hangen. Mae'r model hwn yn llwyddiannus i bobl ag anghenion cefnogi cymhleth, a chanddynt hanes o ddigartrefedd, lle nad yw modelau cefnogi traddodiadol wedi bod yn llwyddiannus.
Comisiynwyd y gwasanaeth yn Abertawe yn 2019 ac mae wedi cael sawl llwyddiant wrth weithio gydag unigolion sydd wedi profi digartrefedd tymor hir a mynych dros nifer o flynyddoedd lle nad oedd y gwasanaeth a oedd ar gynnig fel pe bai'n gweithio iddynt.
Mae'r gwasanaeth yn rhan o ystod eang o wasanaethau atal digartrefedd a chefnogi a gomisiynwyd drwy ddyraniad y cyngor o'r Grant Cymorth Tai gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaethau ochr yn ochr â gwasanaethau statudol sy'n ceisio sicrhau bod y profiad o fod yn ddigartref yn brin ac yn fyr ac yn un na chaiff ei ailadrodd.
Cymorth Cymru sy'n achredu'r holl wasanaethau Tai yn Gyntaf yng Nghymru.