Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bae Abertawe'n rhoi croeso cynnes i long deithio MV Hamburg

Roedd Bae Abertawe wedi rhoi croeso cynnes i long deithio MV Hamburg ddydd Sul wrth iddi gyrraedd porthladd y ddinas, gan ddod â 425 o deithwyr, o'r Almaen yn bennaf, i fwynhau diwrnod o archwilio yng Nghymru.

Dyma'r cyntaf o ddau ymweliad gan long deithio a drefnwyd ar gyfer Abertawe eleni gan y disgwylir i'r Hebridean Princess ddocio ym mis Medi, gan dynnu sylw at apêl gynyddol Abertawe fel cyrchfan i longau teithio.

Mwynhaodd teithwyr yr Hamburg amrywiaeth o wibdeithiau ar draws Cymru a oedd yn arddangos treftadaeth gyfoethog a thirweddau syfrdanol y rhanbarth, gyda llawer ohonynt yn dewis treulio'r diwrnod yng nghanol dinas Abertawe. Gwnaethant ymweld ag atyniadau diwylliannol allweddol gan gynnwys Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a gwnaethant roi cynnig ar ddanteithion o Gymru ym Marchnad y Marina. Roedd yr ymweliad hefyd yn cyd-fynd â gorymdaith a oedd yn cael ei chynnal yn y ddinas i goffáu Diwrnod VE, yr oedd nifer o westeion y llong deithio wedi'i mwynhau fel rhan o'u profiad yn y ddinas.

Roedd tîm twristiaeth Joio Bae Abertawe wrth law ger ochr y doc i gyfarch teithwyr wrth iddynt gyrraedd. I nodi'r achlysur, gwnaeth Côr Phoenix berfformio detholiad bywiog o gerddoriaeth Gymreig, gan osod y naws ar gyfer diwrnod bythgofiadwy a chynnig blas go iawn ar Gymru i westeion.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,

"Rydym yn falch iawn o groesawu llongau teithio fel MV Hamburg i Abertawe.

"Mae pob ymweliad yn dod â buddion economaidd i'n busnesau lleol ac yn cynnig cyfle gwych i arddangos yr hyn y mae gan Abertawe a Chymru i'w gynnig.

"Mae tyfu proffil y ddinas fel cyrchfan i longau teithio'n rhan allweddol o'n strategaeth twristiaeth ehangach, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed rhagor o ymwelwyr yn y dyfodol.

"Mae Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan poblogaidd ymhlith ymwelwyr o'r Almaen. Croesawyd 102,000 o dwristiaid yn 2023, gan greu effaith economaidd gwerth £43 miliwn yn genedlaethol".

Meddai Ashley Curnow, Rheolwr Porthladd Adrannol yn Associated British Ports,

"Roedd ABP yn falch iawn o groesawu llong deithio MV Hamburg i borthladd Abertawe ddydd Sul 11 Mai. Mae'r ymweliad hwn yn nodi'r ymweliad cyntaf gan long deithio â'r porthladd ar gyfer tymor 2025 ac yn amlygu'n hymrwymiad i wella twristiaeth llongau teithio yn ne Cymru.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu llongau teithio eraill i borthladdoedd Abertawe a Chaerdydd dros yr haf."

Mae'r ymweliad llwyddiannus yn tanlinellu enw da cynyddol Abertawe fel cyrchfan o ddewis ar gyfer teithwyr ar longau teithio, sy'n cynnig cymysgedd o ddiwylliant, hanes a lletygarwch i greu argraff barhaus ar ymwelwyr rhyngwladol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mai 2025