Safonau Masnach Abertawe'n atafaelu symiau enfawr o deganau ffug
Mae symiau enfawr o deganau ffug ac anniogel y credir eu bod yn werth rhwng £6 a £10 miliwn wedi'u hatafaelu yn un o'r ymgyrchoedd amlasiantaeth mwyaf yn y DU.

Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe fu'n arwain 'Ymgyrch Grinch' a dargedodd bedwar warws teganau ar ystâd ddiwydiannol fawr yn Southall, Llundain.
Ymunodd dwsinau o swyddogion yr heddlu o Lundain a Chaint â Safonau Masnach Abertawe yn yr ymgyrch, ynghyd â swyddogion Safonau Masnach o Gastell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Swydd Buckingham a Chyngor Surrey, yn ogystal â chynrychiolwyr brand o gwmnïau teganau mawr.
Mae'r ymgyrch yn Llundain yn dilyn atafaelu teganau ffug yng nghanol dinas Abertawe yn ystod cyfnod y Nadolig 2024 pan atafaelodd swyddogion filoedd o deganau ffug o siopau dros dro a ddechreuodd fasnachu yng nghanol y ddinas yn ystod mis Rhagfyr.
Roedd ymchwiliadau i ffynhonnell y teganau wedi arwain Safonau Masnach i'r ystâd ddiwydiannol ger Llundain, gan ysgogi ymgyrch fawr i dargedu prif gyflenwyr y teganau ffug, y credir eu bod wedi'u dosbarthu i rannau eraill o'r DU.
Canfuwyd bod rhai o'r teganau ffug a atafaelwyd yn Abertawe, wedi'u pecynnu fel brandiau adnabyddus gan gynnwys Pokémon, Pepper Pig, Star Wars a Marvel, hefyd yn cynnwys cemegau gwaharddedig o'r enw 'ffthaladau' a all effeithio ar system hormonau'r corff ac sydd wedi bod yn gysylltiedig â rhai mathau o ganser.
Meddai Rhys Harries, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Mae'r atafaeliad diweddaraf yn ganlyniad i ymchwiliadau manwl ynghylch ffynonellau teganau ffug y canfuom eu bod yn cael eu gwerthu yn Abertawe.
"Gall y Nadolig fod yn amser poblogaidd i fusnesau ymsefydlu'n gyflym mewn adeiladau gwag a dosbarthu teganau anniogel, ffug i deuluoedd sy'n chwilio am fargen.
"Er y llwyddom i atafaelu swm sylweddol o'r teganau a oedd yn cael eu gwerthu yng nghanol dinas Abertawe, newidiodd ein ffocws yn gyflym at ffynhonnell y dosbarthiad i Abertawe.
"Rydym wedi treulio llawer o amser yn ymchwilio i'r ffynonellau hyn, gan ddefnyddio partneriaid allanol i gasglu gwybodaeth am y masnachwyr yn Llundain.
"O ran y swm mawr o nwyddau peryglus a ffug rydym wedi'u hatafaelu, does gen i ddim amheuaeth y bwriedid gwerthu pob un o'r rhain ar strydoedd mawr llawer o drefi a dinasoedd y DU. Felly mae'n wych gwybod ein bod wedi cael effaith gadarnhaol ac yn gallu amddiffyn teuluoedd a phlant ifanc rhag y peryglon posib sy'n gysylltiedig â'r teganau hyn, a hefyd amddiffyn brandiau sefydledig y mae gwerthiant cynhyrchion ffug wedi effeithio arnynt."
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r atafaeliad nwyddau ffug diweddaraf hwn yn arwyddocaol o ran yr effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael, nid yn unig yn Abertawe, ond o gwmpas y DU.
"Nid delio â nwyddau ffug oedd yn cael eu gwerthu ar y stryd yn Abertawe'n unig wnaeth ein Safonau Masnach ein hunain, aethon nhw gam ymhellach gan ddangos llawer o broffesiynoldeb a phenderfyniad i fynd i'r afael â'r dosbarthiad ehangach i drefi a dinasoedd eraill. Rwy'n hynod falch o ymdrechion pawb, ynghyd â chymorth partneriaid allanol sydd wedi darparu cefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch hon."