Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hwb i natur ar garreg ein drws yn Abertawe

Mae cymunedau lleol yn Abertawe'n elwa o dros filiwn o bunnoedd o fuddsoddiad a ddefnddiwyd i roi hwb i natur a bioamrywiaeth.

local places for nature

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Penllergare, Prifysgol Abertawe, ysgolion lleol ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, yn ogystal â llawer o grwpiau gwirfoddol yn y ddinas.

Darparwyd y cyllid drwy raglen 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae'r rhaglen gyffredinol yn ceisio gwella bioamrywiaeth mewn rhannau trefol o'r ddinas drwy gyflwyno mwy o fannau gwyrdd a hybu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae dros 1,000 o goed a choed bach (gelwir y rhain yn goed chwip) wedi cael eu plannu mewn cymunedau ar draws y ddinas. Mae bron 10,000 o fylbiau blodau gwyllt brodorol hefyd wedi cael eu plannu ar draws 52 safle yn y ddinas, gan gynnwys ysgolion.

Mae gardd law ac isadeiledd gwyrdd arall hefyd wedi cael eu creu yn ein dinas a fydd yn helpu i atal llifogydd ar y strydoedd hynny.

Mae dros 700 o flychau ystlumod ac adar hefyd wedi cael eu gosod y tu allan i gartrefi yn y ddinas.

Mae partner arall, The Orchard Project, hefyd wedi creu chwe pherllan gymunedol newydd, a ddatblygwyd gyda chymorth gan ysgolion lleol a gwirfoddolwyr.

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r cyllid wedi galluogi'r cyngor i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gyda'r nod o hybu bioamrywiaeth ac annog cynefinoedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt.

"Mae amrywiaeth go iawn o gynlluniau wedi cael eu datblygu, ac rwy'n hyderus y byddant o fudd mawr i gymunedau lleol ac yn cynyddu presenoldeb bywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol.

"Mae'r gwahanol brosiectau wedi galluogi pobl o bob oedran ac o amrywiaeth eang o gymunedau i ddod ynghyd, ac wedi creu lleoedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â phreswylwyr yn y cymunedau hynny."

Ochr yn ochr â phartneriaid o Bartneriaeth Natur Leol Abertawe, mae'r cyngor bellach yn y broses o ddatblygu cynllun ar gyfer y rownd nesaf o gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a fydd yn para dwy flynedd.

"Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Mae'r ddwy flynedd diwethaf o gyllid wedi galluogi'r cyngor a'i bartneriaid i greu cyfres o brosiectau rydym am eu hehangu a pharhau i'w datblygu.

"Bydd y ddwy flynedd nesaf o gyllid grant yn sicrhau y gall y cynlluniau hyn ddatblygu ymhellach ac yn darparu'r buddion go iawn rydym am eu gweld ar gyfer natur yn Abertawe ac yn ein cymunedau lleol."

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2025