Y Cyngor yn awyddus i bob tacsi gynnwys cyfarpar talu â cherdyn
Mae cynlluniau ar waith i wneud talu am dacsi'n haws i deithwyr yn Abertawe.
Mae'r cynlluniau hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan y cyhoedd fod teithwyr mewn perygl o gael eu gadael yn ddiymgeledd am nad ydynt yn cario arian parod ac yn dibynnu mwyfwy ar ddulliau talu modern fel Google Pay a thaliadau digyswllt.
Mae llawer o gwmnïau tacsis a pherchnogion tacsis unigol eisoes yn defnyddio technoleg darllen cardiau yn ogystal â chaniatáu i deithwyr dalu taliadau drwy ap ffôn clyfar. Fodd bynnag, mae llawer o yrwyr tacsis yn y ddinas o hyd sy'n caniatáu taliadau arian parod yn unig, a gallai hyn olygu na fyddai teithwyr posib yn gallu talu'r tâl os nad ydynt yn cario arian parod.
Mewn ymgais i leihau'r pryderon, mae'r Cyngor, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Ardal Gwella Busnes Abertawe ac AJ Security Ltd, eisoes wedi cyflwyno gwasanaeth marsialiaid tacsis 'lle diogel' sy'n helpu teithwyr sy'n aros wrth safle tacsis Caer Street yng nghanol y ddinas am dacsi sy'n darparu cyfleusterau darllen cardiau.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: "Fel Cyngor, rydym yn cydnabod bod mwy a mwy o bobl yn defnyddio llai o arian parod y dyddiau hyn i dalu am wasanaethau ac yn dewis defnyddio dulliau talu mwy modern.
"Ar hyn o bryd, nid oes rheolau ar waith sy'n dweud bod yn rhaid i yrwyr tacsi gario cyfleusterau darllen cardiau fel rhan o'u hamodau trwyddedu.
"Gall hyn olygu bod rhai teithwyr mewn perygl o gael eu gadael yn ddiymgeledd os oes ganddynt opsiynau talu â cherdyn yn unig ac nid ydynt yn cario arian parod.
"Rydym yn gwneud yr hyn y gallwn i reoli'r mater yn ein safleoedd tacsis prysur yng nghanol y ddinas gan ddefnyddio'n marsialiaid tacsis i wylio am deithwyr nad oes ganddynt arian parod ac y mae angen tacsi arnynt gyda chyfleusterau talu â cherdyn. Darperir lle diogel i'r teithwyr hyn aros nes bod tacsi ar gael.
"Rydym am ymgynghori â chwmnïau tacsis a deiliaid trwydded unigol i edrych ar fanteision a goblygiadau ei gwneud yn orfodol i berchnogion cerbydau trwyddedig gael technoleg talu â cherdyn yn eu cerbydau."
https://www.abertawe.gov.uk/taluacherdynTacsis