Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i feicio yn Abertawe

Caiff preswylwyr eu hannog i roi cynnig ar feicio yn Abertawe wrth i Wythnos Feicio ddechrau yn y DU.

cycling woman

Cynhelir y digwyddiad blynyddol, a drefnir gan yr elusen feicio 'Cycling UK' am wythnos rhwng 9 a 15 Mehefin eleni.

Y nod yw annog y cyhoedd i fynd ar eu beiciau a theithio i'r gwaith, yr ysgol neu i gael hwyl a chadw'n heini.

Mae Cyngor Abertawe'n parhau â'i waith i greu rhagor o isadeileddau beicio diogel oddi ar y ffordd fel y gall teuluoedd roi cynnig ar deithio ar ddwy olwyn a theithio o le i le yn eu cymunedau.

Yn Abertawe mae rhwydwaith feicio bwrpasol dros 120km o hyd sy'n eich galluogi i deithio o un gymuned i'r llall heb fod angen i chi fynd ar brif ffordd.

Mae llwybrau fel yr un ar hyd Dyffryn Clun yn golygu bod beicwyr yn gallu teithio o lan môr Bae Abertawe yr holl ffordd i Bontarddulais. Mae gwelliannau diweddar i'r ardal hon drwy Glun hefyd wedi helpu i ehangu'r llwybr fel ei fod yn fwy addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae gan lawer o ysgolion yn y ddinas lwybrau cerdded, beicio a theithio ar olwynion cyfagos sydd wedi'u datblygu dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn ei wneud yn haws ac yn fwy diogel i blant ysgol deithio ar feiciau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Abertawe'n parhau i ddatblygu a chreu rhagor o isadeileddau beicio a cherdded fel eu bod yn ddiogel i bobl o bob oedran a hefyd yn cysylltu cymunedau.

"Ar hyn o bryd mae gennym dros 120km o lwybrau beicio oddi ar y ffordd a grëwyd fel rhan o'n gwaith Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

"Mae digwyddiadau blynyddol fel yr Wythnos Feicio'n ffordd wych o ennyn diddordeb pobl mewn beicio a rhoi cyfle iddynt deithio o le i le mewn ffordd fwy iach a chynaliadwy."

Gall darpar feicwyr edrych ar leoliadau'r holl lwybrau beicio gwahanol yn Abertawe trwy fynd i https://www.abertawe.gov.uk/beicio
 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mehefin 2025