Toglo gwelededd dewislen symudol

Adfywio'n dangos bod Abertawe 'o ddifrif ynghylch twf'

Mae arweinydd busnes o Abertawe wedi canmol y gwaith parhaus gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas.

James Smale-Davies

James Smale-Davies

Mae James Smale-Davies, cyfarwyddwr cyswllt RJ Chartered Surveyors, yn dweud bod buddsoddiad parhaus yn dangos bod Abertawe'n ddinas sydd o ddifrif ynghylch tyfu ei heconomi.

Mae cynlluniau adfywio a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, sydd naill ai wedi'u cwblhau, yn parhau neu yn yr arfaeth yn cynnwys Arena Abertawe, datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin a'r adeilad swyddfeydd newydd sydd i'w adeiladu ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

Mae cynlluniau eraill yng nghanol y ddinas dan arweiniad y sector preifat yn cynnwys prosiect swyddfeydd Ardal y Dywysoges a ddatblygwyd gan Kartay Investments a phrosiect yr adeiladu bioffilig sy'n cael ei ddatblygu gan Hacer Developments.

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys cynllun adeilad Kings ar gylch Ffordd y Brenin a datblygiad Market Lofts ar Stryd Rhydychen sydd wedi'u harwain gan St Mary's Square Developments.

Mae Beacon Cymru'n arwain ar gynlluniau i ddefnyddio hen adeilad Castle Cinema unwaith eto, yn dilyn ailagor adeilad Theatr y Palace a Neuadd Albert.

Mae disgwyl i brosiect mawr dan arweiniad Cyngor Abertawe i drawsnewid hen adeilad BHS yng nghanol y ddinas yn hwb gwasanaethau cymunedol gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Mr Smale-Davies, "Mae'n gyffrous gweld y fath ymrwymiad cyson i adeiladu canol dinas sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

"Mae hwn yn arwydd cryf fod Abertawe o ddifrif ynghylch twf a chadernid a gwneud craidd ei dinas yn fan lle mae pobl wir eisiau gweithio, byw a buddsoddi."

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r swyddfa newydd a fwriedir ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant ddechrau'n gynnar yn 2026.

Bydd yr adeilad pum llawr yn rhan o ddatblygiad defnydd cymysg mwy ar y safle dan arweiniad Cyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Urban Splash.

Dywedodd Mr Smale-Davies, "Mae'n wych gweld bod y datblygiad swyddfeydd newydd hwn bellach yn symud tuag at y cam adeiladu oherwydd mae disgwyl iddo chwarae rhan sylweddol wrth adfywio nifer yr ymwelwyr sy'n dod i ganol y ddinas a chefnogi busnesau lleol.

"O safbwynt eiddo a chreu lleoedd, mae'r cynllun hwn yn ticio blychau pwysig. Mae'n ymateb i brinder swyddfeydd o safon yn Abertawe, wrth annog bywiogrwydd defnydd cymysg gyda bwyd a diod ar y llawr gwaelod. Mae hefyd yn cefnogi cyd-leoli'r sector cyhoeddus a phreifat, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer gwaith adfywio ehangach yng nghanol y ddinas."

Byddai Cyngor Abertawe'n defnyddio un llawr yn y datblygiad swyddfeydd newydd, gyda gweddill y swyddfeydd yn cael eu rhannu rhwng cyrff sector cyhoeddus eraill a busnesau'r sector preifat.

Mae'r cyngor a'i bartneriaid adfywio, Urban Splash, yn datblygu'r adeilad newydd, a fydd dan berchnogaeth y cyngor.

Bydd y cynllun y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2027, yn helpu i ryddhau safle Canolfan Ddinesig glan môr y ddinas ar gyfer ailddatblygiad.

Mae Urban Splash hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd y manylion ar gael.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2025