Peiriant tynnu chwyn newydd yn mynd i'r afael â llwybrau sydd wedi gordyfu yn Abertawe
Mae ein Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau yn parhau â'i waith i dacluso cymunedau lleol.

Mae gwaith y tîm yn cynnwys cael gwared ar chwyn ar droedffyrdd cyhoeddus yn rheolaidd, torri llystyfiant sydd wedi gordyfu, codi sbwriel a chael gwared ar ddeunydd tipio anghyfreithlon.
Mae peiriant tynnu chwyn newydd wedi'i gyflwyno'n ddiweddar ac mae'n helpu i gael gwared ar chwyn ystyfnig ar balmentydd a llwybrau.
Mae'r tîm wedi bod yn y Crwys yn ddiweddar yn rhoi cynnig ar y peiriant newydd.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae aelodau'r tîm yn parhau i wneud gwaith gwych yn ymateb i geisiadau cynghorwyr lleol sy'n helpu i'w cyfeirio at ardaloedd yn eu cymunedau eu hunain y mae angen ychydig o sylw arnynt.
"Mae'r fenter Timau Gweithredol Glanhau Wardiau yn rhan o ymrwymiad £2m y flwyddyn y cyngor i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn ein cymdogaethau.
"Gall llawer o'r gwaith yn y gwasanaeth Timau Gweithredol Glanhau Wardiau, yn ogystal ag adrannau eraill o'n gwasanaeth Parciau a Glanhau, fod yn gorfforol felly mae'n wych gallu darparu cyfarpar newydd a all wneud y gwaith ychydig yn haws.
"Y llynedd, aed i'r afael â mwy na 1,000 o safleoedd, gan helpu i gadw'n cymunedau'n lân ac yn daclus."