Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyswllt beicio Gorsaf Drenau Tre-gŵyr

Disgwylir i gyswllt hanfodol i gerddwyr â gorsaf drenau yn ninas Abertawe gael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf.

active travel general

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r cwmni rheilffyrdd Network Rail i gwblhau rhan o isadeiledd cerdded a beicio yng Ngorsaf Drenau Tre-gŵyr.

Mae'r cyngor wedi bod yn creu cyswllt newydd yn syth i'r orsaf fel rhan o waith parhaus i greu rhwydwaith eang o lwybrau cerdded a beicio o'r enw Teithio Llesol ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cwblhawyd rhan o'r llwybr oddi ar y ffordd rhwng Pontybrenin a Thre-gŵyr ac mae miloedd o gerddwyr a beicwyr wedi'i fwynhau.

Y rhan olaf i'w chwblhau yw'r rhan sy'n weddill o'r llwybr, a fydd yn cysylltu'r llwybr â'r orsaf drenau, a chadarnhaodd y cyngor fod y gwaith i gwblhau'r prosiect yn cynnwys gosod goleuadau ar y llwybr yn yr orsaf ynghyd â theledu cylch cyfyng.

Mae anawsterau wrth sicrhau contractwyr a gymeradwyir gan y rheilffordd i gwblhau'r gwaith yn yr orsaf wedi arwain at oedi ond mae'r cyngor bellach yn gobeithio y bydd y cynllun yn cael ei gwblhau o'r diwedd yn hwyrach eleni.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ein bwriad bob amser yw darparu mynediad gwell i'r orsaf yn Nhre-gŵyr o ochr ogleddol yr orsaf drenau, gan ei gwneud hi'n haws i lawer o'r preswylwyr yn y gymuned i ddefnyddio'r orsaf.

"Rydym eisoes wedi creu llwybr cerdded a beicio poblogaidd sy'n cysylltu â chymunedau eraill yn yr ardal ac rydym yn gobeithio y gall beicwyr integreiddio teithio ar drên yn eu taith trwy ddefnyddio gorsaf Tre-gŵyr.

"Er bod gwaith i gwblhau llwybrau cerdded a beicio fel arfer yn syml, mae datblygu isadeiledd tebyg mewn amgylchedd rheilffordd weithredol yn gofyn am ganiatâd ychwanegol gan Network Rail, yn ogystal â dod o hyd i gontractwyr rheilffyrdd arbenigol i gwblhau gwaith penodol.

"Mae'r oedi wedi bod yn hirach o lawer na'r disgwyl ac nid ydym wedi gallu rheoli hynny oherwydd y cyfyngiadau a osodir ar y gwaith sy'n weddill.

"Rydym yn gobeithio, o ganlyniad i ymroddiad parhaus ein tîm trafnidiaeth, ein bod wedi gallu datrys y materion hyn ac y gallwn symud ymlaen a chwblhau'r gwaith sy'n weddill ac agor y cyswllt i Dre-gŵyr yn llawn erbyn diwedd yr haf."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2025