Preswylwyr yn manteisio i'r eithaf ar wasanaeth ailgylchu newydd sy'n cael ei dreialu yn Abertawe
Mae preswylwyr yn Abertawe'n manteisio i'r eithaf ar wasanaeth ailgylchu cartref newydd sy'n cael ei dreialu yn y ddinas ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn treialu cynllun ailgylchu ymyl y ffordd mewn oddeutu 20,000 o gartrefi yn ddiweddar, gan alluogi aelwydydd i ailgylchu plastigion meddal fel pecynnau creision a bagiau bwyd.
Ar hyn o bryd, os yw preswylwyr am ailgylchu eitemau plastig meddal, yr unig ddewis sydd ganddynt yw mynd â nhw i'w harchfarchnad leol, lle darperir cyfleusterau ailgylchu fel arfer.
Dechreuodd y treial yn Abertawe ym mis Ebrill, mewn 15 o gymunedau y mae eu gwastraff cartref yn cael ei gasglu ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Cynhelir y treial tan fis Rhagfyr 2025.
Hyd yn hyn, amcangyfrifir bod mwy na pum tunnell o blastigion meddal wedi'u casglu o gartrefi yn yr ardaloedd treialu.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Ar hyn o bryd, mae Abertawe'n perfformio'n dda iawn o ran ailgylchu, ac mae'r rhan fwyaf o breswylwyr yn defnyddio'r holl wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd, yn ogystal â rhoi niferoedd cyfyngedig o sachau du allan i'w casglu.
"Rydym yn gwybod bod awydd i breswylwyr ailgylchu mwy o'u gwastraff cartref, yn enwedig eitemau plastig meddal fel bagiau siopa - sydd ar hyn o bryd yn cael eu rhoi mewn gwastraff sachau du.
"Bydd y treial yn caniatáu i'r cyngor ddeall sut y gellir cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig yng nghasgliadau ailgylchu ymyl y ffordd yr holl aelwydydd yn y dyfodol.
"Mae arwyddion cynnar wedi dangos bod llawer o breswylwyr yn yr ardaloedd treialu yn manteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth ac yn ailgylchu plastigion meddal gan ddefnyddio'r sachau glas newydd."
Mae rhagor o wybodaeth am y treial ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/plastigionmeddal