Toglo gwelededd dewislen symudol

Gosod goleuadau traffig newydd yng nghanol y ddinas

Mae goleuadau traffig ger parc siopa yng nghanol y ddinas yn cael eu huwchraddio i helpu i wella llif traffig.

traffic lights

Disgwylir i Gyngor Abertawe ddisodli goleuadau traffig sy'n mynd yn hen wrth fynedfa Parc Tawe yng nghanol y ddinas fel rhan o fuddsoddiad gwerth £150,000.

Bydd yr offer newydd yn cynnwys y dechnoleg signalau traffig foltedd isel iawn ddiweddaraf, sy'n effeithlon o ran ynni. Bydd y goleuadau hefyd yn cynnwys systemau canfod cerbydau uwch a chamerâu cylch cyfyng modern sy'n monitro traffig, y mae'r cyfan wedi'i gynllunio i wella llif traffig ac effeithlonrwydd cyffredinol y rhwydwaith yn yr ardal.

Bydd y gwaith i ailosod yr hen oleuadau traffig yn dechrau ddydd Llun 14 Gorffennaf, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau dros 4 wythnos. Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod ar y safle wrth i'r gwaith ailosod fynd rhagddo.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae goleuadau traffig yn rhan annatod o sut rydym yn rheoli llif traffig yng nghanol y ddinas a thu hwnt.

"Pan fyddwn yn cael y cyfle i ddisodli goleuadau sydd wedi mynd yn hen, rydyn ni'n gwneud hynny drwy osod y dechnoleg ddiweddaraf a mwyaf arloesol sydd ar gael.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gallu cynnwys systemau teledu cylch cyfyng, er mwyn caniatáu i'n tîm telemateg fonitro llif traffig mewn amser go iawn ac i wneud newidiadau i wella llif traffig os oes angen gwneud hynny.

"Bydd y cynlluniau diweddaraf i osod offer newydd ger Parc Tawe yn ychwanegu at y rhwydwaith o oleuadau traffig modern yng nghanol y ddinas ac yn ein galluogi i fod hyd yn oed yn fwy rhagweithiol wrth reoli traffig prysur yng nghanol y ddinas.

"Dylai modurwyr fod yn ymwybodol y gall fod rhywfaint o darfu ar lif traffig wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae hyn yn anochel pan fyddwn yn defnyddio goleuadau dros dro. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i achosi cyn lleied â phosib o aflonyddwch a byddwn yn ymdrechu i gwblhau'r gwaith uwchraddio cyn gynted â phosib."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2025