Cymorth yn ystod yr haf yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y ddinas
Mae teithiau ar fysus am ddim ar benwythnosau, cyllid i ddarparu prydau bwyd i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r ysgol a chymorth ar gyfer gweithgareddau i'r teulu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yn Abertawe yn ystod yr haf, yn ôl un grŵp cymunedol.


Roedd BAME, sef grŵp cefnogi iechyd meddwl pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn un o gannoedd o grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Abertawe i elwa o'r ymgyrch #YmaIChiYrHafHwn.
Roedd y sefydliadau amrywiol yn cynnwys canolfannau cymunedol, siediau dynion, clybiau gwyliau plant a thimau chwaraeon ar lawr gwlad.
Mae BMHS yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys cymorth cyflogaeth, hyfforddiant ac eiriolaeth, ac mae ei swyddfeydd yng nghanol y ddinas yn hwb cymunedol a ddefnyddir gan lawer o bobl.
Meddai cyfarwyddwr y sefydliad, Alfred Oyekoya, "Rydym yn ddiolchgar am gymorth parhaus Cyngor Abertawe drwy'r ymgyrch #YmaIChiYrHafHwn. Mae'r cyllid gwerth £3,817 a gawsom wedi ein galluogi i gynnal gweithgareddau a rhoi cymorth i'n haelodau.
"Cafodd y fenter bysus am ddim ei chroesawu'n fawr gan lawer o bobl, gan iddi alluogi teuluoedd i gymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau yn ystod yr haf ledled Abertawe."
Aeth Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, i weithdy cyflogaeth diweddar yn y swyddfeydd a siaradodd â chyfranogwyr.
Meddai, "Mae cyfuniad Cyngor Abertawe o gymorth bwyd yn ystod gwyliau'r haf, bysus am ddim a chyllid am weithgareddau am ddim a rhad yn unigryw, gan alluogi teuluoedd ledled Abertawe i fanteisio i'r eithaf ar y tywydd a mwynhau amser da gyda'i gilydd."