Toglo gwelededd dewislen symudol

Bygwth camau cyfreithiol yn dilyn llifogydd mewn cymuned yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi ysgrifennu i Glwb Cymdeithasol Cwmfelin yn dilyn llifogydd yng Nghwmbwrla.

cwmbrwla flood

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu i'r clwb heddiw i ofyn am fanylion gwaith a wnaed yn ddiweddar i atgyweirio llyncdwll yn ei faes parcio. Mae'r llyncdwll yn deillio o gwymp cwlfert preifat o dan safle'r clwb.

Ers i'r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau, cafwyd llifogydd mawr yn ardal cylchfan Cwmbwrla.

Effeithiodd y llifogydd yn ystod y penwythnos blaenorol ar sawl eiddo preswyl a busnes yn yr ardal, gan arwain at broblemau traffig mawr yn ardal cylchfan Cwmbwrla, a aeth o dan y dŵr.

Cyn y glaw dros y penwythnos, arolygwyd y safle a sicrhawyd bod cwlfertau a gylïau'r cyngor yn glir. 

Mae'r cyngor a Dŵr Cymru wedi cymryd camau brys, gan ddefnyddio cyfarpar pwmpio ychwanegol i leihau lefelau dŵr yn yr ardal. Mae'r ffordd ar gau o hyd i draffig o'r tu allan.

Mae Dŵr Cymru'n aros i'r clwb gael ei ddymchwel er mwyn rhoi timau ar waith i ddiogelu gwaith atgyweirio i'r cwlfert a'r system carthffos fudr.

Mae'r cyngor wedi erfyn ar y clwb a'i gontractwr i gyfathrebu â Dŵr Cymru ar frys i drafod opsiynau i hwyluso'r gwaith dymchwel.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Caeodd Clwb Cymdeithasol Cwmfelin oherwydd llyncdwll ddwy flynedd yn ôl a phenododd y clwb gontractwyr i ddymchwel y clwb.

"Mae'r contractwyr wedi llenwi'r llyncdwll yn ddiweddar. Nid yw llifogydd wedi bod yn broblem yn yr ardal yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i'r cyfarpar pwmpio wneud ei waith. Mae'r llifogydd mawr ers i'r llyncdwll gael ei atgyweirio yn destun pryder i ni.

"Rydym wedi ysgrifennu i'r clwb heddiw i roi gwybod am y problemau hyn ac wedi gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig bod y contractwyr wedi gwneud y gwaith yn briodol.

"Ni all Dŵr Cymru gael mynediad i'r cwlfert a'i atgyweirio nes i'r clwb gael ei ddymchwel. Rydym wedi annog y clwb i weithio gyda'i gontractwyr i gwblhau'r gwaith dymchwel cyn gynted â phosib fel y gellir atgyweirio'r cwlfert."

Yn y cyfamser, mae'r cyngor a Dŵr Cymru'n cymryd camau i leihau'r posibilrwydd y bydd rhagor o lifogydd, gan olygu y bydd angen cadw cyfarpar pwmpio ar y ffordd gerbydau i mewn.

Ychwanegodd y Cyng. Stewart, "Rydym yn gwneud popeth posib ac yn gweithio gyda Dŵr Cymru i gynyddu'r cyfarpar pwmpio dros dro ar y safle i helpu i leihau llifogydd.

"O ganlyniad i hyn, cyfyngir ar y traffig sy'n mynd i mewn o hyd. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achosir, ond ein blaenoriaeth yw lleihau bygythiad llifogydd nes y gellir atgyweirio'r cwlfert. Gwneir hyn oll er mwyn diogelu preswylwyr a busnesau ac atal achos tebyg rhag digwydd yn ystod y gaeaf."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Medi 2025