Mae cefnogwyr digwyddiadau a gwyliau rhagorol ein dinas yn cael eu hannog i gynnig syniadau ac awgrymiadau er mwyn gwneud hyd yn oed yn well yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Abertawe eisoes yn enwog am ei rhaglen o ddigwyddiadau sy'n denu torfeydd fel Sioe Awyr Cymru, Gorymdaith y Nadolig a 10k Bae Abertawe.

Ac mae hi hefyd yn gartref i ddigwyddiadau diwylliannol arbennig fel Amplitude, Croeso a Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe y mae pob un ohonynt yn creu argraff bob blwyddyn.
Nawr mae Cyngor Abertawe'n edrych i'r dyfodol, i'r degawd nesaf i weld beth sy'n dod nesaf, ac mae am i unrhyw un â syniadau ac awgrymiadau da eu cyflwyno.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae ein rownd flynyddol o ddigwyddiadau a gwyliau'n un o'n straeon llwyddiant diwylliannol mawr, gan gefnogi swyddi a busnesau a denu degau ar filoedd o ymwelwyr i'r ddinas drwy gydol y flwyddyn.
"Mae digwyddiadau'n ganolog i'n cymuned, ac i sicrhau ein bod yn ymdrechu i fod yn gyrchfan mwy bywiog, uchelgeisiol a chynhwysol fyth yn y blynyddoedd i ddod, mae angen i breswylwyr, cefnogwyr a busnesau ein helpu i lunio a datblygu strategaeth i'n harwain drwy'r degawd nesaf.
Meddai, "Bydd y strategaeth yn helpu i osod gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer dyfodol digwyddiadau yn Abertawe, gan gwmpasu chwaraeon, diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth, twristiaeth a lles i breswylwyr ac ymwelwyr.
"Mae ein diwydiant twristiaeth eisoes yn cynhyrchu mwy na £600m ar gyfer yr economi leol bob blwyddyn, gan gefnogi mwy na 5,000 o swyddi.
"Drwy'r strategaeth hon, mae Abertawe'n ceisio sefydlu ei hun fel cyrchfan digwyddiadau arweiniol - gan ysgogi twristiaeth a thwf economaidd lleol a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau ar draws y ddinas.
"Os ydych yn ymuno â'r ymgynghoriad yn awr, caiff eich barn ei hystyried ar ddechrau ein cynllun i greu a llunio strategaeth sy'n adlewyrchu'r hyn y mae pobl Abertawe am ei gael wrth arddangos ein doniau i gynulleidfaoedd cynyddol."
Mae Tîm Digwyddiadau Arbennig y cyngor wedi penodi'r arbenigwyr digwyddiadau Alpha 1 Events i gynorthwyo gyda datblygu'r strategaeth.
I sicrhau ei bod yn strategaeth i bob rhanddeiliad, mae'r cyngor yn gofyn i unigolion, sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol ac arweinwyr busnes i rannu eu meddyliau a'u syniadau.
Cwblhewch yr arolwg byr hwn i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried.
Dylai gymryd 10 munud ar y mwyaf. Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall - er enghraifft, print bras - e-bostiwch: sali.thomas@abertawe.gov.uk
Dyddiad cau: 11pm nos Wener 17 Hydref
Gyda'n gilydd, gadewch i ni greu strategaeth sy'n gwneud Abertawe'n gyrchfan blaenllaw ar gyfer digwyddiadau a gwyliau.