Toglo gwelededd dewislen symudol

Goleuadau rhad-ar-ynni'n goleuo clwb rygbi ym mhenrhyn Gŵyr

Mae clwb rygbi ym mhenrhyn Gŵyr bellach yn goleuo ei faes rygbi gyda llifoleuadau newydd o ganlyniad i gronfa arbed ynni wledig.

rural anchor example floodlights rhossili

Mae Clwb Rygbi De Gŵyr newydd osod set o lifoleuadau LED rhad-ar-ynni sy'n sicrhau bod chwarae a hyfforddi ar y maes ar nosweithiau tywyll hefyd yn gost-effeithiol i'r clwb. 

Defnyddiodd y clwb arian grant (£21,148) a weinyddir gan Gyngor Abertawe drwy'r Gronfa Angori Gwledig drwy Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU - cynllun sydd wedi helpu i lansio 17 o brosiectau ynni adnewyddadwy ar draws cymunedau gwledig yn Abertawe. 

Meddai John Haslam o Glwb Rygbi De Gŵyr, "Rydym yn falch iawn o rannu bod llifoleuadau LED newydd sbon bellach wedi'u gosod ar ein meysydd rygbi cyffwrdd a 3/4. 

"Bydd y goleuadau LED newydd, sy'n disodli'r hen oleuadau halid metel, yn darparu lefelau goleuo llawer gwell a byddant hefyd yn arwain at arbedion sylweddol o ran yr ynni a ddefnyddir, allyriadau carbon llai a chostau cynnal a chadw is yn y dyfodol. 

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y buddsoddiad hwn, a fydd o fudd i'n chwaraewyr a'n hyfforddwyr ac i grwpiau cymunedol eraill sy'n defnyddio ein cyfleusterau, fel tîm rygbi cyffwrdd Gower Dragons a chlwb saethyddiaeth Southgate." 

Rhwng 2023 a 2025, mae Cyngor Abertawe wedi helpu i rannu cyfanswm o £716,934 ar draws 54 o brosiectau gwledig ar draws Abertawe. 

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r llifoleuadau newydd yng Nghlwb Rygbi De Gŵyr lawer gwell na'r goleuadau blaenorol a osodwyd yno. Byddant yn helpu'r clwb yn ariannol o ran biliau ynni yn y dyfodol. 

"Mae amrywiaeth eang o brosiectau yng nghymunedau gwledig Abertawe wedi derbyn arian dros y ddwy flynedd diwethaf ac wedi defnyddio'r arian yn dda. 

"Mae pawb yn elwa o hynny, o bobl ifanc sy'n mwynhau chwaraeon neu deuluoedd sydd am fynd am deithiau cerdded tywys trwy gefn gwlad rhyfeddol. 

"Mae'r cyllid rydyn ni wedi'i dderbyn yn mynd i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau dan sylw ac i'r rheini sy'n ymweld â nhw." 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Hydref 2025