Ail ddedfryd o garchar i ddyn sy'n gwerthu tybaco ffug yn Abertawe
Mae dyn a gafodd ei garcharu yn flaenorol am werthu miloedd o sigaréts ffug yn Abertawe wedi cael ei garcharu am yr ail dro am droseddau tebyg yn y ddinas.

Pleidiodd Adnan Abdullah o Morris Lane yn St Thomas yn euog yn Llys y Goron Abertawe i un drosedd o fasnachu twyllodrus, yn dilyn ymchwiliad gan Safonau Masnach Abertawe i werthiant a chyflenwad parhaus o sigaréts ffug i siopau ar draws y ddinas.
Mae bellach wedi'i ddedfrydu i 12 mis yn y carchar ar ôl cael ei ddal gyda mwy na 3,000 o becynnau o sigaréts ffug yn ei gar yr amcangyfrifwyd eu bod yn werth £15,000 ar y stryd.
Roedd hefyd yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol, sy'n ei atal rhag dod i ddinas Abertawe am gyfnod o 10 mlynedd. Credir y bydd Mr Abdullah yn cael ei alltudio pan fydd ei ddedfryd o garchar yn dod i ben.
Cafodd y car yr oedd Mr Abdullah yn ei yrru pan gafodd ei arestio ei adnabod yn flaenorol gan Safonau Masnach fel y cerbyd a ddefnyddiwyd i ddosbarthu'r tybaco ffug i siopau o gwmpas y ddinas. Rhoddwyd gwybod i'r heddlu am y car a gwnaethant stopio'r cerbyd ar hyd ffordd yn y ddinas ym mis Gorffennaf 2025.
Yn Llys y Goron Abertawe, gwnaeth y barnwr hefyd wahardd Mr Abdullah rhag gyrru am 30 mis gan nad oedd ganddo yswiriant na thrwydded yrru.
Mae'r ddedfryd ddiweddaraf yn dilyn dedfryd o 16 mis a roddwyd i Mr Abdullah ym mis Ionawr 2024 ar ôl iddo gael ei stopio yn ei gerbyd tua diwedd 2023 gyda sigaréts a thybaco rholio â llaw ffug a oedd yn werth £37,000.
Meddai Arweinydd tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, Rhys Harries, "Rydym wedi bod yn monitro Mr Abdullah am gyfnod oherwydd ei weithgareddau sy'n gysylltiedig â chyflenwi tybaco ffug i siopau lleol.
"Ar ôl iddo adael y carchar, gwnaethom ei wylio'n parhau i fasnachu tybaco anghyfreithlon a gwelsom ei fod yn cyflenwi'r nwyddau hyn i nifer o siopau lleol.
"Gwnaeth yr heddlu ein cynorthwyo i atal Mr Abdullah a gwnaethom ddod o hyd i lawer o nwyddau anghyfreithlon ar y ffordd i siopau yn Abertawe eto."
Cynhaliodd y Cyngor ymgyrch fawr gyda Heddlu De Cymru ac asiantaethau eraill yn ddiweddar, gan dargedu siopau y gwyddys eu bod yn gwerthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug.
Mae'r ymgyrch wedi arwain at gau naw siop dros dro yn y ddinas, ac mae dwy o'r rheini bellach wedi derbyn gorchymyn i gau am hyd at dri mis wrth i'r ymchwiliadau barhau.
Meddai'r Cyng. Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol (Perfformiad), "Mae Safonau Masnach wedi ymrwymo i sicrhau bod siopau ar draws Abertawe'n gweithredu'n gyfreithlon ac nad ydynt yn peryglu defnyddwyr drwy werthu tybaco ffug neu fêps anghyfreithlon.
"Mae'r achos diweddaraf hwn wedi helpu i atal cyflenwi tybaco ffug i siopau yn y ddinas a'i atal rhag mynd i ddwylo defnyddwyr o ganlyniad."