Toglo gwelededd dewislen symudol

TranslCerflun trên newydd wedi'i ddadorchuddio mewn cymuned yn Abertawe

Mae celfwaith trawiadol wedi'i ddadorchuddio mewn cymuned yn Abertawe i ddathlu cysylltiadau'r gymuned â hanes rheilffyrdd diwydiannol cyfoethog y ddinas.

gowerton statue

Mae'r cerflun gwaith haearn aruthrol, sy'n edrych fel y rhan flaen o locomotif stêm o'r gorffennol, yn eistedd ar gyffordd Sterry Road a Gorwydd Road yn Nhregŵyr.

Mae'n eistedd ar union safle hen orsaf reilffordd De Tregŵyr, a oedd yn arfer bod yn gyswllt rheilffordd ddiwydiannol bwysig - rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNWR), a oedd yn weithredol rhwng 1867 a 1964.

Mae'r celfwaith diweddaraf i'w ddadorchuddio gan Gyngor Abertawe'n rhan o raglen Creu Lleoedd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sy'n bwriadu ychwanegu cyfeiriadau diddorol a hanesyddol at y gorffennol at rannau o lwybrau cerdded a beicio teithio llesol a gwblhawyd yn flaenorol.

Derbyniodd y cyngor y cyllid creu lleoedd fel rhan o'i gynlluniau ehangach i gynyddu a gwella llwybrau cerdded a beicio ar draws y ddinas.

Dyma'r ail gerflun a godwyd yn y ddinas yn dilyn dadorchuddio cerflun maint go iawn o geffyl ar hyd glannau camlas Clydach. Fe'i gwnaed gan ddefnyddio mwy nag 800 o bedolau ac mae'n dathlu'r defnydd o geffylau i dynnu cychod camlas ar hyd camlesi ar draws y wlad.

Yn flaenorol, cwblhaodd y cyngor ran 1.5km o hyd o lwybr cerdded a beicio ar hyd llwybr halio'r gamlas yng Nghlydach ac mae teuluoedd wedi bod yn mwynhau'r llwybr wedi'i wella ers iddo gael ei gwblhau yn 2022.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Fel rhan o'n cynlluniau teithio llesol parhaus, mae gennym y cyfle i ddathlu hanes ein gorffennol a helpu i atgoffa pobl am y cymunedau niferus yn y ddinas a luniwyd gan wasanaethau trafnidiaeth.

"Mae'r cerflun diweddaraf yn wirioneddol drawiadol ac mae bellach yn dirnod gwych ac eiconig ar gyfer preswylwyr Tregŵyr a hefyd ar gyfer ymwelwyr.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn derbyn yr un ganmoliaeth ag y mae'r cerflun o'r ceffyl yng Nghlydach hefyd wedi'i derbyn."

Mae'r celfwaith diweddaraf yn Nhregŵyr hefyd yn nodi cwblhad cyswllt teithio llesol hanfodol yng ngorsaf drenau bresennol Tregŵyr, gan ddarparu llwybr diogel ac oddi ar y ffordd rhwng y gymuned a chymunedau cyfagos gan gynnwys Pontybrenin a Gorseinon.

Cwblhawyd cyswllt rhwng Pontybrenin a Thregŵyr yn flaenorol ond roedd arno angen cyswllt uniongyrchol â'r orsaf drenau i alluogi cerddwyr a beicwyr i ddefnyddio'r orsaf fel croesfan wrth ddefnyddio'r llwybr oddi ar y ffordd.

Mae'r cyswllt sydd newydd agor hefyd yn galluogi beicwyr i ddefnyddio'r trên fel rhan o'u taith i mewn ac allan o ganol dinas Abertawe.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae cyswllt presennol Tregŵyr â'n gwasanaethau trafnidiaeth rheilffyrdd yn chwarae rhan enfawr mewn cynnig ffyrdd amgen o deithio i bobl leol. Nod y cyswllt sydd newydd agor yw darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gymudwyr ddefnyddio cymysgedd o feicio a mynd ar y trên wrth deithio.

"Mae hefyd wedi rhoi dewis diogel ar gyfer croesi dros yr orsaf drenau i gerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r llwybrau ar y ddwy ochr i'r orsaf.

"Mae llwybrau cerdded a beicio newydd yn parhau i gael eu datblygu ar draws Abertawe, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr deithio mewn ffordd gynaliadwy ac iach."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2025