Preswylwyr yn Abertawe'n cael eu holi i weld a ydynt yn gwybod i ble mae eu gwastraff yn mynd fel rhan o ymgyrch tipio anghyfreithlon
Mae preswylwyr yn Abertawe wedi derbyn awgrymiadau da i'w helpu i waredu eitemau cartref diangen yn gyfreithlon fel nad ydynt yn cael eu tipio'n anghyfreithlon.

Mae Cyngor Abertawe'n helpu i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Tipio Anghyfreithlon, sy'n cael ei chynnal rhwng 13 Hydref ac 17 Hydref.
Mae'r ymgyrch, dan y faner 'Eich dyletswydd chi yw gofalu', wedi'i lansio gan sefydliad Taclo Tipio Cymru mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Cadwch Gymru'n Daclus.
I gefnogi'r ymgyrch, mae swyddogion gorfodi'r cyngor yn Abertawe wedi bod allan ar y strydoedd yn trosglwyddo cyngor defnyddiol i breswylwyr a all fod yn ystyried gwaredu eitemau cartref nad ydynt yn addas ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried tipio anghyfreithlon yn weithred a gyflawnir gan gludwyr gwastraff didrwydded sy'n taflu symiau mawr o wastraff, yn aml mewn ardaloedd gwledig, mae mathau eraill o dipio anghyfreithlon nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt.
Dywedwyd wrth breswylwyr fod rhai pobl yn tipio'n anghyfreithlon yn anfwriadol drwy naill ai gadael bagiau o eitemau diangen ar y stryd gydag arwydd 'i'w cymryd am ddim', gadael bagiau o wastraff ger biniau cyhoeddus neu roi eitemau diangen y tu allan i siopau elusen sydd ar gau.
O ran gweithgareddau tipio anghyfreithlon mwy, mae preswylwyr wedi derbyn awgrymiadau da cyn iddynt gyflogi cwmni gwastraff i gael gwared ar eu heitemau diangen. Mae'r awgrymiadau da'n cynnwys gwirio gyda CNC i weld a yw'r cwmni wedi'i gofrestru ac a oes ganddo drwydded i dipio, cadw derbynebau gan y cwmni a gwneud cofnod o rif cofrestru'r cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i waredu'r gwastraff.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau yn Abertawe, "Gwyddom fod tipio anghyfreithlon yn broblem fawr ledled Cymru ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein hamgylchedd lleol, nid yn unig ar dir gwledig, ond hefyd ar y strydoedd rydyn ni'n byw ynddynt.
"Pwrpas ymgyrch heddiw yw addysgu preswylwyr a rhoi awgrymiadau da iddynt i'w hatal rhag bod yn rhan o'r broblem tipio anghyfreithlon. Mae rhai preswylwyr, yn ddiarwybod, yn cyflogi cwmnïau gwaredu gwastraff twyllodrus nad oes ganddynt unrhyw fwriad i waredu gwastraff yn gyfreithlon, ac mae'n aml yn cael ei ollwng ar lôn wledig yn y diwedd.
"Gall preswylwyr nad ydynt yn cymryd camau i wirio pwy maen nhw'n eu cyflogi gael eu herlyn os darganfyddir tystiolaeth yn ystod ymchwiliadau."
Mae'r ymgyrch yn dilyn achos llys diweddar yn Abertawe lle cafodd preswylydd o Gendros ddirwy ar ôl i wastraff a oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon gael ei ymchwilio gan arwain swyddogion gorfodi at y preswylydd yn Llwyncethin Road. Fe'i cafwyd yn euog o beidio â glynu wrth ei ofynion Dyletswydd Gofal Deiliaid Tai a chafodd ddirwy o £150, ynghyd â chostau o £350 a gordal o £60.