Toglo gwelededd dewislen symudol

Anogir busnesau bwyd i gymryd alergeddau o ddifrif yn Abertawe

Anogir bwytai a siopau bwyd cyflym yn Abertawe i chwarae eu rhan i ddiogelu cwsmeriaid a chanddynt alergeddau bwyd a all fod yn angheuol.

food allergens

Daw'r alwad yn dilyn camau gweithredu pendant gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe yn erbyn tri bwyty lleol - Saporito Pizza and Grill House, Indian Street Kitchen, and Joyato Sushi and Grill - ar ôl i ymchwiliadau ddatgelu toriadau difrifol i reoliadau diogelwch bwyd, gan roi cwsmeriaid mewn perygl.

Mae'r tri busnes wedi cael dirwy ar ôl pledio'n euog i droseddau o dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 a Deddf Diogelwch Bwyd 1990, gan gynnwys y troseddau o werthu bwyd anniogel a disgrifio bwyd yn ffals.

Gofynnwyd i Mr Seckin Bulutoglu, perchennog Saporito Pizza and Grill House ar Gower Road, Cilâ, dalu dirwy o £320 ynghyd â thâl ychwanegol o £373 a chostau o £1,400.

Gofynnwyd i berchennog Indian Street Kitchen, Mr Muminul Uddin, dalu dirwy o £993 ynghyd â thâl ychwanegol o £373 a chostau o £1,000.

Bu'n rhaid i Yanrui Yi, perchennog Joyato Sushi and Grill yn Salubrious Passage dalu dirwy o £4,000, tâl ychwanegol o £1,600 a chostau o £3,866.

Roedd yr erlyniadau yn dilyn samplu ac archwiliadau cudd, a oedd wedi datgelu bod y tri sefydliad wedi darparu prydau a oedd yn cynnwys alergenau heb eu datgan i gwsmeriaid a oedd wedi datgan alergeddau penodol, yn ogystal â disgrifio bwyd ar eu bwydlenni yn ffals.

Ym mhob achos, gwnaeth staff sicrhau cwsmeriaid yn ffals fod y bwyd yn ddiogel, ac yn dilyn dadansoddiad dilynol, cadarnhawyd bod alergenau fel glwten, llaeth ac ŵy yn bresennol. Roedd toriadau pellach yn cynnwys cam-labelu eitemau ar y fwydlen, diffyg systemau rheoli alergenau priodol a hyfforddiant staff.

Meddai'r Cyng. Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol (Perfformiad), "Mae'r achosion hyn yn amlygu'r canlyniadau angheuol posib o fethu â rheoli alergenau a darparu gwybodaeth gywir i gwsmeriaid.

"Nid oes gan yr un o'r busnesau dan sylw esgus oherwydd maent wedi cael cyngor sylweddol o ran hyfforddiant staff a'r peryglon sy'n gysylltiedig ag alergenau.

"Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac ni fydd yn oedi i gymryd camau gorfodi yn erbyn busnesau sy'n rhoi cwsmeriaid mewn perygl."

Mae'r cyngor yn annog yr holl fusnesau bwyd i sicrhau bod eu staff wedi'u hyfforddi'n llawn a bod gwybodaeth am alergenau yn gywir ac yn gyfoes. Anogir cwsmeriaid hefyd i ofyn am alergenau ac, os ydynt yn ansicr, i gerdded i ffwrdd.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch bwyd a rheoli alergenau, ewch i wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Tachwedd 2025