Toglo gwelededd dewislen symudol

Talwch Dreth y Cyngor

Mae sawl ffordd o dalu Treth y Cyngor. Ddebyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu.

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol

Eich Preifatrwydd

Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny.

Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol newydd neu newid Debyd Uniongyrchol presennol ar gyfer eich Treth y Cyngor (Yn agor ffenestr newydd)

Cewch ddewis o 4 dyddiad talu: 1af, 8fed, 15fed neu 22ain y mis.

 

Taliadau ar-lein

Talwch eich treth y cyngor ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.  Sicrhewch fod eich rhif cyfrif Treth y Cyngor wrth law gennych.

 

Dros y ffôn

Ffoniwch 0300 4562775, sicrhewch fod rhif eich cyfrif Treth y Cyngor wrth law pan ffoniwch yn ogystal â'ch cerdyn debyd neu gredyd.

Sylwer nad ydym yn derbyn taliadau American Express.

 

Yn Swyddfa'r Post neu gownter Payzone

Gwneir taliadau yn Swyddfa'r Post gan ddefnyddio cerdyn talu â streipen fagnetig.

Os oes gennych gerdyn talu Swyddfa'r Post eisoes, gallwch ei ddefnyddio mewn unrhyw swyddfa bost. Os hoffech archebu cerdyn, Cysylltu ag adran Treth y Cyngor a gallwn anfon un atoch.

Mae'n rhaid gwneud taliadau gydag arian parod yn unig. Nid oes angen talu ffi mewn unrhyw swyddfa bost ar yr amod y gwneir y taliad gyda'r cerdyn â streipen fagnetig. Caiff eich taliad ei gredydu i'ch cyfrif Treth y Cyngor o fewn 5 niwrnod a chewch dderbynneb bapur pan wnewch y taliad.

Lleoliadau siopau Payzone (Yn agor ffenestr newydd)

 

Trwy siec

Dylid croesi sieciau ac archebion post a'u gwneud yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'.

Ysgrifennwch eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich cyfrif Treth y Cyngor ar gefn y siec a'i phostio i'r cyfeiriad canlynol:

Pennaeth Cyllid a Chyflwyno,
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN.

Peidiwch ag anfon sieciau wedi'u blaen-ddyddio gan na allwn eu derbyn. Peidiwch ag anfon arian parod trwy'r post.

 

Yn bersonol

Gallwch wneud taliadau'n bersonol gydag arian parod, cerdyn debyd, cerdyn credyd* neu siec yn ein swyddfa arian yn y Ganolfan Ddinesig neu unrhyw un o'r swyddfeydd tai ardal lleol.

Sicrhewch fod gennych rif eich cyfrif Treth y Cyngor pan ddewch i wneud y taliad a'ch bod yn gwybod faint mae angen i chi ei dalu.

 

Trosglwyddiad Banc

Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor:

Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AF.

Côd didoli  30-00-00
Rhif y cyfrif 00283290

Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif Treth y Cyngor neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif.

Close Dewis iaith