Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr di-dâl

Mae'r gostyngiad hwn ar gyfer pobl sy'n darparu gofal a neu gymorth i berson arall nad yw'n bartner iddynt, yn bartner sifil, yn ŵr, yn wraig neu'n blentyn dan 18 oed.

Mae hyn yn golygu na allwch wneud cais os ydych yn gofalu am eich partner/gŵr/gwraig neu am blentyn dan 18 oed.

Os oes mwy nag un person yn darparu gofal, mae'n bosib y gallent hwy gael eu hystyried ar gyfer gostyngiad hefyd ond byddai'n rhaid cwblhau cais ar wahân i bob gofalwr.

Sylwer: Gellir gofyn am ffurflen cais am ostyngiad ar wahân os ystyrir bod gan y person sy'n derbyn gofal "Nam Meddyliol Difrifol" at ddibenion Treth y Cyngor.

Close Dewis iaith